Crwydro a Fforio

Mae Tirwedd Treftadaeth y Byd Blaenafon yn lle delfrydol i'w chrwydro ar droed. Yn 33km2, mae'r dirwedd yn gyfoeth o safleoedd hanesyddol, sy'n amrywio o olion cynhanes i'r hyn sy'n ein hatgoffa o orffennol diwydiannol yr ardal. Cyfunwch hyn gyda'r tirffurfiau tonnog a'r golygfeydd godidog ac mae gennych y cyfuniad perffaith i fynd am dro hamddenol neu benwythnos heriol o antur.

Gall y cerddwr profiadol wrth gwrs, godi map OS a chreu ei lwybr unigryw ei hun o gwmpas yr ardal. I'r llai profiadol, rydym wedi creu ystod o becynnau cerdded a fydd yn eich tywys yn ddiogel o gwmpas y dirwedd a byddant hefyd yn dod â nodweddion a safleoedd ar y ffordd yn fyw. Gallwch lawr lwytho'r pecynnau hyn neu beth am alw i mewn i Ganolfan Treftadaeth y Byd yn Nhref Blaenafon i godi copi ac i sgwrsio â'r staff a fydd yn falch i'ch helpu i ganfod pa un yw'r llwybr gorau i chi a'ch teulu.

Gwybodaeth Bwysig

Er ei bod yn hawdd iawn i fynd o gwmpas Tirwedd Treftadaeth y Byd, mae'n bwysig bod yn barod pan fyddwch yn cerdded yn unrhyw le. Felly, er mwyn bod yn ddiogel:

  • Cofiwch wisgo esgidiau a dillad addas. Cofiwch y gall y tywydd newid yn gyflym yn y dirwedd hon, felly byddwch yn barod!
  • Dewch ā diod ac unrhyw fwyd sydd ei angen arnoch
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble rydych yn mynd cyn i chi gychwyn allan a hefyd gwnewch yn siŵr bod pobl yn gwybod ble rydych yn mynd a phryd y byddwch yn ôl
  • Dilynwch y Cod Cefn Gwlad - gofalwch am ein tirwedd

I gael mwy o wybodaeth lawr lwythwch gopi o daflen CommonSense. Bydd y llyfryn hwn yn egluro popeth i chi am dir comin, yr hyn i'w wneud a'i osgoi, ac, yn bwysicach oll, â phwy i gysylltu os ydych yn dod ar draws problem.