Ymweld â Blaenafon

Wedi'i lleoli ger y porth i Gymoedd De Cymru, yn rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn dyst i ymdrech dynol glowyr a gweithwyr haearn y gorffennol.

Wedi'i lleoli mewn 33 cilomedr sgwâr, mae'r atyniadau, digwyddiadau, gweithgareddau a'r dirwedd yn ei gwneud yn gyrchfan perffaith ar gyfer ymweliad. Mae'r prif atyniadau fel Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru, Gwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y Byd a Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon i gyd o fewn ychydig funudau mewn car neu ar droed oddi wrth ei gilydd. Yn wir, mae cymaint o atyniadau gwych, bydd angen i chi dreulio mwy na diwrnod yma i fwynhau popeth - felly trefnwch benwythnos os oes modd!

Yn 2000, cafod Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon ei dynodi'n Safle Treftadaeth y Byd, am y rhan y chwaraeodd yr ardal fel y cynhyrchydd haearn a glo mwyaf yn y byd yn y 19eg Ganrif. Heddiw gallwch weld olion yr holl elfennau angenrheidiol oedd eu hangen ar gyfer y diwydiant haearn a glo, yn cynnwys pwll glo, ffwrneisi, chwareli, systemau rheilffyrdd, bythynnod y gweithwyr haearn, eglwysi, capeli, ysgol a neuadd y gweithwyr. Mae'r cyfan oll wedi eu lleoli ar dirwedd a ffefrir gan gerddwyr, beicwyr a beicwyr mynydd. Mwynhewch eich ymweliad - pryd bynnag y dowch!

Ac, ar ôl i chi grwydro Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, beth am ddarganfod mwy am Barc Rhanbarthol y Cymoedd a Chymru, y genedl ddiwydiannol gyntaf, drwy ddilyn Llwybr Treftadaeth Ddiwydiannol De Cymru, rhan o lwybr Ewrop gyfan.