Cynllunio eich ymweliad

P'un a ydych yn bwriadu ymweld am fore, diwrnod neu wyliau byr, mae gan Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon amrywiaeth mor eang o atyniadau a gweithgareddau y gall fod yn anodd dewis beth i'w wneud.

Teithiwch o dan y ddaear ym Mhwll Mawr; crwydro'r llwybrau troed ar draws y Dirwedd Ddiwydiannol; camu yn ôl mewn amser ar drên stêm; blasu golygfeydd a synau gwneud haearn yng Ngwaith Haearn Blaenafon; crwydro drwy'r dref dreftadaeth; neu wylio plant o oes Victoria yn chwarae yn iard yr ysgol trwy ddyfeisiau realiti estynedig!

Dyma rhai syniadau sut y gallech gyfuno’r atyniadau gwych i greu diwrnod hudol tu hwnt – os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â’r Ganolfan Croeso blaenavon.tic@torfaen.gov.uk neu 01495 742333 – a byddwn yn eich helpu i drefnu ymweliad bythgofiadwy!