Teithio yn ôl mewn Amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon

Teithiwch yn ôl i’r gorffennol ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a chael blas ar y 19eg a’r 20fed ganrif drosoch chi’ch hun trwy ein ffilmiau rhithwir.

Camwch yn ôl mewn amser i’r cyfnod pan oedd Broad Street yn ffynnu fel canolfan masnachol i’r gymuned mwyngloddio, pan oedd Canolfan Dreftadaeth y Byd yn ysgol i blant y mwyngloddwyr a Phwll Mawr yn ei anterth. Cewch gwrdd â’ r pobl oedd yn byw a gweithio ym mhob lleoliad.

Gwyliwch y ffilmiau ar-lein, ar eich ffôn neu ar dabled; i weld hanes Blaenafon yn dod yn fyw o flaen eich llygaid. Cewch flasu'r profiad hwn drwy ddelweddau rhithwir fel gwyliwr cardbord Google neu declyn clust.

Os ydych am ymgolli’n llwyr yn y profiad o gael eich tywys i’r gorffennol yna beth am alw heibio Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a defnyddio Meinciau'r Teithiwr Yn Ôl Mewn Amser sydd wedi eu lleoli ym Mhwll Mawr, Safle Treftadaeth y Byd a Broad Street, Blaenafon a gwylio’r olygfa yr ydym yn ei gweld heddiw yn trawsnewid i’r gorffennol.

Fideos 360 yw'r rhain. Ar eich bwrdd gwaith defnyddiwch eich cyrchwr i edrych i bob cyfeiriad. Ar ffôn symudol symudwch eich dyfais i edrych i bob cyfeiriad.