5. Rhes Garnddyrys

Y waliau rwbel o’ch amgylch yw gweddillion Rhes Garnddyrys. Yn y 1840au roedd tua 450 o bobl yn byw mewn tai gweithwyr yn yr efail ac o’i chwmpas. Ar ôl tua 140m, gadewch lwybr y dramffordd a dechreuwch eich ffordd i fyny’r bryn, gyda’r wal gerrig sych ar eich ochr chwith. Dilynwch y llwybr drwy’r rhedyn gan ofalu eich bod yn cadw at y llwybr sydd ag arwyddbyst. Ar ôl tua 400m fe ddewch I lwybr mwy sylweddol i’r dde â mynegbost yn dangos y ffordd. Cerddwch i fyny’r llwybr serth am 300m pellach tan i chi ddod ar draws arwyddbost o garreg yn dangos ‘Gofilon/Llan-ffwyst’. Trowch i’r dde wrth yr arwyddbost.

garnddyrys
Blaenavon World Heritage Site logo

This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.