2. Dramffordd Hill
Rydych nawr yn cerdded ar Dramffordd Hill. Cafodd ei hadeiladu yn y 1820au a chafodd ei henwi ar ôl Thomas Hill, haearn feistr Blaenafon. Roedd y dramffordd ei hun yn orchest beirianegol ddyfeisgar a oedd yn cysylltu Gwaith Haearn Blaenafon â’r gamlas yn Llan-ffwyst. Tua 35m ymhellach ymlaen o’r nant mae olion adeilad carreg a oedd ymhob tebyg yn gartref i siop gof. Ewch ar hyd llwybr y dramffordd am 600m arall.
This website is optimised for portrait mobile devices. Please rotate your device or resize your browser.