Grwpiau a Chyfarfodydd
Mae Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn lle gwych i ymweld ag ef neu i gwrdd â grwpiau o bob oed a diddordeb. Mae'r ystod eang o atyniadau a gweithgareddau yn golygu y gellir trefnu pecyn unigryw ar gyfer eich grŵp neu ddigwyddiad, i'w wneud yn fythgofiadwy.
Mae’r dirwedd agored yn golygu bod y safle yn lle delfrydol ar gyfer gweithgareddau, gan roi cyfleoedd gwych i gynnal gweithgareddau gweithio fel tîm a digwyddiadau ysgogi - cysylltwch â Thîm Croeso Cymru ar blaenavon.tic@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 742333 ac fe ddown o hyd i ffordd o greu profiadau i ddiwallu eich dyheadau.