Teithiau Grŵp

Mae Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer grwpiau - hen ac ifanc. Wedi'i leoli ger y porth i Gymoedd De Cymru, mae'r atyniadau ar Safle Treftadaeth y Byd yn adrodd hanes ardal a oedd yn fan geni'r Chwyldro Diwydiannol. Dechreuwch eich taith yng Nghanolfan Treftadaeth Byd Blaenafon i ddarganfod pam oedd yr ardal yn lleoliad perffaith i'r diwydiant haearn ffynnu. Mentrwch 300 troedfedd o dan y ddaear yn Mhwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru; mynnwch gyfle i weld olion ffwrneisi chwyth Gweithfeydd Haearn Blaenafon, y man lle cafodd rhaglen Coalhouse y BBC ei ffilmio; fe gewch gyfle i weld y Dirwedd Ddiwydiannol tra'n cael eich cludo ar drên ar Reilffordd Treftadaeth Blaenafon; neu beth am flasu ambell i gwrw lleol ym Mragdy Rhymni.

  • MYNEDIAD AM DDIM i’r mwyafrif o atyniadau
  • Teithiau tywysedig yng nghwmni tywyswyr profiadol, ar gael mewn sawl iaith
  • 50 munud o Gaerdydd
  • Pob atyniad o fewn 5 o’i gilydd
  • Man parcio am ddim i fysiau
  • Cyfleusterau ar gyfer yr anabl
  • Teithlenni pwrpasol wedi’u teilwra
  • Siopau anrhegion yn gwerthu cynnyrch a chrefftau lleol
  • Caffi a mannau picnic rhagorol
  • Llety 4* o fewn 12 milltir o’r Safle yn cynnig gostyngiadau i grwpiau