Ystafelloedd Te'r Ganolfan Dreftadaeth

Cyfeiriad:Blaenavon World Heritage Centre, Church Road, Blaenavon, Torfaen, NP4 9AE

Ffôn:01495 742339


Mae Caffi’r Heritage Tearooms yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon yn cynnig gwasanaeth lluniaeth llawn, gan gynnwys cacennau ffres, bwyd poeth a diodydd.

Mae’r golygfeydd i fyny ac ar draws y Cwm yn wych a gellir eu mwynhau ym mhob tywydd – faint o gaffis sy’n cynnig golygfa o chwarel, mynwent eglwys a thai mwyngloddwyr Cymreig i gyd ar yr un pryd?

Ar ddyddiau braf medrwch eistedd allan yn y gerddi, naill ai ar feinciau neu wrth ein byrddau picnic.

Mae’r caffi hefyd yn cynnig gwasanaeth arlwyo os ydych yn llogi ystafell neu ddigwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal yma.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yma!

Amserau agor

  • Dydd Llun  -  Ar gau (heblaw am Wyliau Banc)
  • Dydd Mawrth i Ddydd Sul  -  09:15 - 16:30
Ystafelloedd Te'r Ganolfan Dreftadaeth