Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Cyfeiriad:Heol yr Eglwys Blaenavon, NP4 9AE

Ffôn:01495 742333

E-bost:blaenavon.tic@torfaen.gov.uk


Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yw'r man cychwyn delfrydol ar gyfer eich ymweliad â'r ardal. Wedi'i lleoli yn hen Ysgol Sant Pedr sydd wedi cael ei hadfer mewn ffordd gydymdeimladol, mae'n darparu trosolwg o sut y mae straeon Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn bwysig ar draws y byd.

Gallwch bori drwy'r arddangosfeydd a fideos traddodiadol sy'n darlunio hanes rhyfeddol yr ardal a gallwch dreiddio'n ddyfnach i hanes Blaenafon trwy ddefnyddio sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol i archwilio amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys safonau byw, daeareg, systemau trafnidiaeth a Threftadaeth Byd.

Gallwch hefyd ymweld â llyfrgell y dref sydd wedi'i lleoli ar lawr uchaf yr adeilad. Mae gan y ganolfan siop anrhegion dda lle gallwch ddewis o amrywiaeth o gynhyrchion â thema leol. Yn ystod ymweliad gallwch hefyd ddarllen eich negeseuon e-bost ar gyswllt diwifr tra'n mwynhau pryd o fwyd neu luniaeth ardderchog yn yr Heritage Café sy'n edrych dros Fynwent Eglwys San Pedr.

Mae’r ganolfan yn fan cychwyn ar gyfer nifer o deithiau cerdded o amgylch Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon; mae gan y Ganolfan Croeso, sydd ar y safle, ddewis eang o daflenni teithiau cerdded y gallwch ddewis o’u plith.

Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig darpariaeth addysg arbenigol ar gyfer ysgolion, cyfleuster ymchwil a'r cyfleusterau cynadledda diweddaraf. Galwch heibio i roi dechrau da i'ch ymweliad!

Amserau agor

  • Dydd Llun – Ar gau (heblaw am Wyliau Banc)
  • Dydd Mawrth i Ddydd Sul - 10:00 - 17:00
Blaenavon World Heritage Centre