Mae Amgueddfa Gymunedol Blaenafon wedi’i lleoli yn Neuadd y Gweithwyr, sy’n adeilad godidog, a thîm o wirfoddolwyr cyfeillgar sy’n ei rhedeg. Yno maent yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol falch Blaenafon a meysydd glo de Cymru.
Dewch i archwilio amrywiaeth o arddangosfeydd sy’n helpu i egluro cymdeithas Blaenafon yn y 19eg a’r 20fed ganrif.
Hefyd yn cael eu harddangos mae eitemau personol y nofelydd enwog Alexander Cordell (1914-1997), awdur y llyfr Rape of the Fair Country (1959) sydd, erbyn hyn yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd, sydd wedi gwerthu orau yn rhyngwladol.
Mae gan yr amgueddfa archif helaeth o hanes teuluol a hanes lleol. Gellir trefnu ymchwil yn gyfnewid am gyfraniad. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal sesiynau hanes teulu yn wythnosol a hynny AM DDIM ar y cyd â Chanolfan Treftadaeth y Byd a Llyfrgell Blaenafon (dydd Gwener, 10am-1pm).
Gellir trefnu i’r amgueddfa agor y tu allan i oriau arferol, os yw’r gwirfoddolwyr ar gael.