Gwaith Haearn Blaenafon, lleoliad y gyfres deledu Coal House ar y BBC sydd wedi ennill gwobrau, yw’r nodwedd fwyaf arwyddocaol yn Nhirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.
Y gwaith haearn hwn a gychwynnodd cynhyrchu ym 1789 yw’r safle ffwrnais chwyth sydd wedi ei warchod orau o’i gyfnod a’i fath yn y byd, ac mae’n un o’r cofebion pwysicaf i oroesi o gyfnod cynnar y chwyldro diwydiannol.
Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn arwyddocaol hanesyddol gan fod y gwaith haearn, yn ystod dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn un o’r cynhyrchwyr haearn pwysicaf yn y byd.