Mae Neuadd y Gweithwyr Blaenafon yn un o'r adeiladau mwyaf trawiadol ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Mae'r Neuadd, a agorodd ym mis Ionawr 1895, yn dyst i hanes cymdeithasol balch Blaenafon. Cafodd y gwaith adeiladu ei ariannu gan Sefydliad y Gweithwyr Blaenafon, a gasglodd didyniad wythnosol o ddimai o gyflog ei aelodau. Am ddegawdau roedd Neuadd y Gweithwyr yn ganolbwynt i'r gymuned, gan ddarparu llyfrgell, gemau, adloniant a gweithgareddau hamdden.
Heddiw, mae Neuadd y Gweithwyr Blaenafon dal i fod yn darparu ar gyfer y gymuned, drwy gynnig sinema, cyngherddau, snwcer a thenis bwrdd. Mae hefyd yn gartref i lawer o grwpiau a chymdeithasau, a chynhelir cynadleddau a chyfarfodydd yno.