Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon

Cyfeiriad:Furnace Sidings, Blaenafon, NP4 9SF

Ffôn:01495 792263

E-bost:info@bhrailway.co.uk

Gwefan:https://www.bhrailway.co.uk/


Gan fynd heibio llynnoedd hardd y Garn, mae Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon yn teithio trwy Dirwedd Ddiwydiannol fawreddog Blaenafon, a hynny ar uchder sy’n uwch nag unrhyw hen reilffordd lled safonol sydd wedi ei chynnal i safon dda yng Nghymru a Lloegr.

Mae pawb yn mwynhau'r Rheilffordd Treftadaeth. Mae yna nifer o locomotifau stêm a disel ac amrywiaeth o gerbydau gan gynnwys dau hen gerbyd sy'n rhedeg ar bron i 3 milltir o drac rhwng 4 gorsaf. Mae lluniaeth a siop ar gael ym Mhencadlys Furnace Sidings tra bod amgueddfa fach ar Lefel Uwch Blaenafon.

Yn ogystal, trefnir ystod eang o ddigwyddiadau i deuluoedd trwy gydol y flwyddyn. Mae’r rheilffordd hefyd yn cynnal penwythnos 40au, rali trafnidiaeth ac, ar gyfer selogion a theuluoedd fel ei gilydd, mae ein gala stêm ym mis Medi yn atyniad enfawr. Un o uchafbwyntiau’r calendr yw’r gwasanaeth ‘Siôn Corn’ arbennig sy’n cael ei gynnal ym mis Rhagfyr i gludo teuluoedd ar daith trên i Ogof Siôn Corn.

Mae'r rheilffordd wedi'i chynnal a'i chadw'n dda diolch i ymdrechion selogion y rheilffyrdd; ond mae angen mwy o wirfoddolwyr bob amser i gadw'r rheilffordd i fynd. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn rhedeg Siop y Rheilffordd yng nghanol Blaenafon. Mae manylion yr holl wasanaethau a digwyddiadau gan gynnwys amserlenni bob amser ar eu gwefan.

Blaenavon's Heritage Railway