Mae dros 40% o Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r dirwedd odidog yn llawn hanes ac mae llawer o bethau i'w gweld a'u gwneud.
Yn ymestyn o'r Gelli Gandryll yn y dwyrain i Landeilo yn y gorllewin, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cwmpasu ardal dros 500 milltir sgwâr. I'r anturus mae mynyddoedd ysblennydd, llynnoedd, afonydd ac ogofâu i'w harchwilio. I'r rheini sy'n chwilio am amser mwy hamddenol mae digon o lonydd gwledig tawel, tafarndai croesawgar, llwybrau beicio hawdd, teithiau cerdded ar hyd y gamlas a golygfeydd tawel i'w darganfod.
Y Parc Cenedlaethol yw'r lle perffaith i fynd i gerdded p'un a ydych am grwydro'n hamddenol drwy gaeau a choedwigoedd neu gael eich denu gan her y mynyddoedd uchel. Mae beicio hefyd yn drywydd poblogaidd gyda dewis o feicio mynydd egnïol neu daith feicio hamddenol; gallwch logi beiciau ar ôl i chi gyrraedd.
Mae marchogaeth yn ffordd wych i gyrraedd rhannau anghysbell o'r Parc, a gallwch wir ddiflannu o brysurdeb y byd ar y dŵr, ar fad, canŵ neu gwch hwylio!
Mae'r Parc Cenedlaethol yn hafan ar gyfer pob math o fywyd gwyllt y gellir ei weld mewn nifer o fannau o gwmpas y safle. Ceir tystiolaeth hefyd o'r trigolion blaenorol, yn cynnwys meini hirion o Oes y Cerrig, tomenni claddu o'r Oes Efydd a'r bryngaerau o'r Oes Haearn. Mae'r amgueddfeydd a chanolfannau ymwelwyr ar draws y Parc yn rhoi cipolwg i holl feysydd hanes. Mynnwch wybod mwy am y Parc, ei hanes a'i phobl yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol sy'n cynnig digwyddiadau, arddangosfeydd a bwyty /siop de.