Arferai Gwarchodfa Natur Leol Llynnoedd y Garn fod yn ardal a oedd wedi ei gorchuddio â thomenni gwastraff a hen weithfeydd glo, ond yn dilyn cynllun helaeth i adfer y tir cafodd ei hagor yn swyddogol ym 1997 fel ardal hardd ar gyfer trigolion ac ymwelwyr. Mae'n gorchuddio 40 hectar, ac mae’r llynnoedd a’r glaswelltiroedd yn darparu cynefin a man bridio amrywiol ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt.
Wrth i chi grwydro o gwmpas y llynnoedd rydych yn debygol o weld hwyaid copog, ehedyddion, giachod, pibyddion coesgoch a gwyachod bach. Efallai y byddwch hefyd yn ffodus i weld adar sy'n mudo o Affrica, fel y Pibydd Cyffredin a Thelor yr Helyg. Yn ddiweddar, crëwyd ardal gwlypdir newydd gyda chuddfan adar, felly er mwyn cael y gorau o'ch ymweliad gwnewch yn siŵr bod gennych eich ysbienddrych a llyfr adar wrth law!
Mae Llynnoedd y Garn yn fan cychwyn gwych ar gyfer nifer o deithiau cerdded drwy'r Dirwedd Ddiwydiannol, er enghraifft cerddwch heibio'r Rheilffordd tuag at Bwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru ac fe welwch Domenni Coety, enghreifftiau cynnar o domenni gwastraff conigol o'r gweithfeydd glo. O gwmpas y Llynnoedd mae yna hefyd nifer o leoedd i gael picnic a gwylio'r byd yn mynd heibio - hyd yn oed gwylio un o drenau stêm Blaenafon a Phont-y-pŵl yn pwffian ar hyd y trac.