Mae camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn rhedeg am 32 o filltiroedd (51.5 km) trwy olygfeydd hynod ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rhwng Aberhonddu a Phont-y-pŵl ac yna ymlaen i Gasnewydd. Cafodd ei adeiladu rhwng 1797 a 1812 i gysylltu Aberhonddu gyda Dociau Casnewydd. Yn ystod y 1930au aeth allan o arfer, ond mae wedi ei raddol adfer gan Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain. Ym 1970 ail-agorwyd y gamlas ac fe’i defnyddir nawr ar gyfer canŵa, pysgota, cerdded ar y llwybr halio, ac ar gyfer gwyliau cychod camlas.
Y rhwydwaith camlesi oedd priffordd y Chwyldro Diwydiannol, yn cludo haearn a nwyddau eraill i’r dociau i gychwyn ar eu taith o gwmpas y byd. Mae darn o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn mynd trwy Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, yn cynnig golygfeydd gwych ac yn mynd heibio nifer o dirnodau diwydiannol ar y ffordd. Er enghraifft, prydleswyd y glanfeydd yn Llan-ffwyst a Gofilon gan yr Haearnfeistri a’u cysylltu â Blaenafon gan rwydwaith cymhleth o dramffyrdd ac inclêns. Yn y cyfamser, roedd y gwaith haearn yng Ngheunant Clydach yn anfon ei haearn ar dramffordd a oedd yn cysylltu’r gamlas yng Nghilwern.
Mae Glanfa Goetre yn safle hyfryd gyda mwy na 200 mlynedd o dreftadaeth ddiwydiannol, gan gynnwys odynnau calch hynod a thwneli dan y gamlas. Mae’n fan cychwyn gwych er mwyn crwydro rhan ddwyreiniol Safle Treftadaeth y Byd.