Eglwys Sant Pedr

Cyfeiriad:Heol yr Eglwys, Blaenafon

Ffôn:01495 524599


Eglwys y plwyf Blaenafon, Eglwys Sant Pedr yw’r eglwys ddiwydiannol gyntaf yn yr hen Sir Fynwy. Mae nifer o nodweddion diddorol ynddi, sy’n tystio i bwysigrwydd y diwydiant haearn yn yr ardal.

Ymhlith y nifer o nodweddion unigryw sydd i’w gweld mae maen bedydd haearn bwrw, pileri haearn bwrw yn dal y balconi i fyny, siliau drws haearn bwrw a grŵp o bum bedd gyda haearn ar eu brig yn y fynwent. O gwmpas muriau’r eglwys mae placiau coffa dinasyddion enwog Blaenafon i’w gweld, gan gynnwys yr haearnfeistr Samuel Hopkins, a adeiladodd, gyda’i ewythr a’i bartner busnes, Thomas Hill o Dennis, yr eglwys ym 1804.

Os yw’r eglwys dan glo, mae allwedd ar gael yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon. Mae rhagor o wybodaeth am eglwysi a chapeli Blaenafon, gan gynnwys cofnodion plwyf lleol, ar gael yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd ac yn Amgueddfa Codell a Chymuned yn Heol y Llew.

St Peters Church