Pwll y Ceidwad

Cyfeiriad:Heol y Fenni (B4246)

Ffôn:01495 742333

E-bost:blaenavon.tic@torfaen.gov.uk


Mae Pwll y Ceidwad, a elwir hefyd yn Bwll Pen-ffordd-goch neu Bwll yr efail, wedi ei leoli ger Pwll Du, ar y bryn uwchben Blaenafon. Cafodd y pwll ei adeiladu ar ddechrau'r 19eg ganrif i ddarparu dŵr ar gyfer Efail Garnddyrys, a ddechreuodd gynhyrchu tua 1817. Cafodd yr efail ei datgymalu yn ystod y 1860au ac er nad oedd gan y pwll ddiben diwydiannol bellach, daeth yn llecyn prydferth lleol dros nos. Cafodd ei enwi'n Bwll y Ceidwad am fod ceidwad neu 'ciper' y rhostiroedd grugieir yn byw mewn bwthyn gerllaw.

Heddiw, mae maes parcio Pwll y Ceidwad yn fan cychwyn delfrydol i gerdded ar Fynydd Blorens. Er enghraifft, os byddwch yn dilyn Llwybr y Mynydd Haearn byddwch yn darganfod llawer o bethau i'ch atgoffa o ddiwydiant y 19eg ganrif, gan gynnwys tramffyrdd a thwneli.

Mae’r pwll yn le delfrydol i ymweld ag ef ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r golygfeydd yn drawiadol dros ben a gallwch eistedd yno gyda choffi neu bicnic beth bynnag yw’r tywydd. Hyd yn oed yng nghanol gaeaf, mae’n le ardderchog i gerdded y ci, a gorau oll os yw’n ddiwrnod gwyntog... i hedfan barcud!!

The Keepers Pond