Ymweld â Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill yng Nghymru

Yng Nghymru rydym mor ffodus fod gennym dri Safle Treftadaeth y Byd UNESCO gwych - lleoedd sy'n dangos y gorau oll o ymdrech ddynol a ddylanwadodd ar y byd i gyd. Gallwch ymweld â'r safleoedd trawiadol hyn sydd i gyd yn aelodau o glwb elitaidd o gwmpas y byd, megis y Taj Mahal a'r Pyramidiau.

Mae Cestyll Edward 1af yng Ngogledd Cymru ymhlith yr enghreifftiau gorau o bensaernïaeth filwrol ganoloesol ledled Ewrop. Mae'r darn olaf yng nghynllun strategol y Brenin i goncro Cymru, y cestyll cylch consentrig yn Harlech a Biwmares ynghyd â'r palasau gaer yng Nghonwy a Chaernarfon yn eistedd yn fawreddog ar hyd arfordir gogledd Cymru, ac yn lleoedd trawiadol i ymweld â hwy.

Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn dyst i waith dyfal a dyfeisgarwch yr haearn feistri yn ogystal â’r gweithwyr cyffredin. Mae tirwedd unigryw yn dangos creithiau mwyngloddio yn ogystal â nodweddion i'n hatgoffa o'r dulliau trafnidiaeth dyfeisgar a symudodd yr haearn, glo a mwynau eraill rhwng safleoedd ac ar eu ffordd i farchnadoedd o amgylch y byd. Erbyn hyn mae yna leoedd gwych i ymweld â hwy, fel Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru, y Gwaith Haearn a'r Rheilffordd Treftadaeth.

Traphont a Chamlas Pontcysyllte yw’r heneb fwyaf diweddar i ennill Statws Treftadaeth Byd. Mae’r draphont hiraf ym Mhrydain yn gamp beirianegol, gryf ond ysgafn, syfrdanol! Yn 126 o droedfeddi uwchben llawr y dyffryn, mae’r cychod yn gwasgu drwy gafn haearn llawn dŵr, 5tr 3 mod o ddyfnder ac 11eg troedfedd o led. Lwcus mai cychod culion ydyn nhw!

Mae pob un o’r safleoedd hyn yn unigryw ac yn gyfle gwych i’r teulu oll ddarganfod mwy am hanes unigryw ac amrywiol Cymru.