Pecyn Cymorth Marchnata
Am wlad fach, mae Cymru’n gwneud yn rhyfeddol o dda yn nhermau Safleoedd Treftadaeth y Byd. Ar hyn o bryd mae yna dri – tirwedd ddiwydiannol Blaenafon; Cestyll Edward I a thraphont a chamlas Pontcysyllte ac fe allai’r nifer hyn gynyddu ymhellach.
Mae'r bartneriaid sy'n gysylltiedig yn cydnabod bod hyn yn rhoi llinyn pwerus arall ym mwa marchnata Cymru.
Beth yw’r pecyn cymorth a pham mae’n ddefnyddiol i mi?
Rydym am eich helpu i wneud y mwyaf o'r manteision sydd ar gael o fod yn rhan o deulu Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru. Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig syniadau syml a chyngor ar sut y gallwch ddefnyddio’r cysyniad ‘Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru’ i'ch helpu i farchnata eich safle a gwneud y 'cynnig' cyffredinol yn yr ardal yn fwy deniadol i ymwelwyr drwy ddangos eich bod yn rhan o rywbeth llawer mwy. Lawr lwythwch y Pecyn Cymorth yma.
Rydym wedi cynnwys copi defnyddiol y gallwch ei dorri a'i ludo mewn i'ch gwefannau, taflenni a datganiadau i'r wasg ac ati. Rydym hefyd wedi cynnwys rhai delweddau stoc a rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio delweddau o gasgliad helaeth Croeso Cymru. Mae yna hefyd awgrymiadau ymarferol ynglŷn â defnyddio'r sianelau cyfryngau cymdeithasol sy'n cysylltu â'r prosiect, rhestr o gysylltiadau arbenigol defnyddiol, cyngor ar gyfleu eich straeon ar y llwyfan cenedlaethol yn ogystal â dolenni i becyn cymorth marchnata Croeso Cymru a llawer mwy.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei gael yn ddefnyddiol!