Dod yn wirfoddolwr
Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon
Brwdfrydig ynglŷn â thirwedd ein Safle Treftadaeth y Byd, ei fywyd gwyllt a’i hanes? Mwynhau bod yn yr awyr agored? Diddordeb mewn ymuno â gweithgareddau ymarferol gyda phobl sy’n teimlo’r un fath – a chael tipyn o hwyl?
Os yw hyn yn eich disgrifio chi, yna efallai yr hoffech ystyried ymuno â Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon (BWHEG)!
Mae’r grŵp cymunedol hwn yn cynnwys pobl sy’n angerddol am bopeth sydd gan yr amgylchedd i’w gynnig, boed yn fywyd gwyllt unigryw, archaeoleg ddiddorol, neu waliau cerrig. Mae’r grŵp yn ymgymryd â thasgau rheolaidd i warchod, gwella a hyrwyddo treftadaeth naturiol a diwylliannol gwerthfawr yr ardal.
Mae croeso i aelodau newydd ymuno unrhyw adeg. Cysylltwch â’r grŵp ar bwheg@hotmail.co.uk os hoffech chi fynychu gweithgaredd blasu neu ymuno â’r grŵp, neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Facebook BWHEG (ewch i dudalen facebook Grŵp Amgylcheddol Treftadaeth y Byd Blaenafon (agor mewn ffenestr newydd)). Medrwch hefyd gael gafael arnom trwy ffonio Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ar 01495 742333.
Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon
Wedi ei lleoli yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, mae gan Reilffordd Dreftadaeth Blaenafon bedair gorsaf gyda’r brif orsaf, caffi a seidins yn Furnace Sidings. O’r fan hon mae trenau ym mynd i’r gogledd i’r Whistle Inn, i’r de i Orsaf Lefel Uchel Blaenafon a throsodd i Arhosfa’r Pwll Mawr, sydd drws nesaf i’r Amgueddfa Lofaol Genedlaethol.
Mae Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr. Mae amrywiol gyfleoedd sy’n addas ar gyfer pob oedran a sgiliau. Mae rhai rolau yn weithredol – gweithio ar y trên fel criw loco neu fel gard neu archwiliwr tocynnau. Mae rolau eraill yn cynnwys gorsaf-feistr neu glerc bwcio, tra bo’r ystafell luniaeth yn cynnig posibiliadau i bobl sydd â diddordeb mewn arlwyaeth.
Rydym hefyd angen pobl sy’n mwynhau peirianneg neu dasgau cynnal a chadw eraill ar y locos, cerbydau a wagenni; at hyn mae gennym adran peirianneg sifil sy’n adeiladu strwythurau a helpu i osod trac. Os hoffech chi gael gwybod mwy, ewch i’n gwefan www.pbrly.co.uk neu e-bostiwch volunteer@pbrly.co.uk.