Cymryd rhan
Mae pum tîm yng Ngrŵp Amgylchedd Treftadaeth y Byd (GATBB) ac mae rhai pobl yn rhan o fwy nag un tîm.
Y Tîm Cadwraeth Ymarferol
Mae'r tîm hwn yn cwblhau ystod eang o waith rheoli cefn gwlad a hawliau tramwy mewn grŵp o tua 6 o bobl, fel arfer bob yn ail ddydd Mercher a dydd Sadwrn ac weithiau ar ddyddiau eraill yr wythnos hefyd. I enwi ond ychydig:
Helpu gyda llosgi dan reolaeth i reoli'r cynefinoedd rhostir pwysig yn y dirwedd
Rheoli'r rhedyn ymledol i glirio llwybrau a gwneud lle i fwy o rug
Gosod arwyddion newydd ar gyfer llwybrau cerdded
Plannu cynefin corslwyn newydd
Y Tim Sy'n Codi Waliau Cerrig Sych
Mae'r tîm sy'n codi waliau cerrig sych wedi bod yn cynyddu'n raddol drwy raglen hyfforddi a oruchwylir gan hyfforddwr Martin Rathbone. Mae'r tîm yn cynnwys pobl sydd wedi cyflawni safon lefel 1 yng Nghynllun Crefftwaith Cymdeithas Waliau Cerrig Sych, neu'n gweithio tuag ato.
Y nod yw atgyweirio cynifer o waliau ag y bo modd, sy'n ffurfio ffiniau tir comin o flaenoriaeth uchel yn ardal y cynllun. Gan adfer y fath nodweddion pwysig yn y dirwedd, dylai fod yn haws i bobl y comin (sy'n meddu ar hawliau i bori'r comin) rheoli da byw . Gyda chynnydd mewn pori dylai hyn wella rheolaeth dros gynefin gweundir grugog yr ucheldir ar y tiroedd comin. Mae cyflawni hyn trwy raglen hyfforddi ar gyfer pobl leol, i godi waliau cerrig sych, yn golygu bod y fath sgil treftadaeth gwerthfawr yn cael ei gadw'n fyw. Mae waliau cerrig sych hefyd yn fuddiol i fywyd gwyllt gan eu bod yn darparu lleoedd i adar, ymlusgiaid ac infertebratau i nythu.
Grŵp Archaeoleg
Mae'r grŵp hwn yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i ddarganfod a diogelu'r safleoedd archeolegol sydd i'w gweld ar Safle Treftadaeth y Byd. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn cyfarfod ddwywaith y mis ar gyfer un sesiwn dysgu dan do ac un sesiwn dysgu awyr agored, dan gyfarwyddyd archeolegydd maes proffesiynol o Archaeoleg Cymru. A fyddech cystal â chysylltu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno!
Y Tîm Monitro Bywyd Gwyllt
Monitro'r Uwchldir
Mae'r tîm yn cynnal arolygon drwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft monitro nifer y grugieir coch (rhywogaeth bwysig sy'n dirywio, sy'n dibynnu ar gynefin gweundir grug y tiroedd comin.) a chofnodi'r nifer amcangyfrifedig o ehedyddion (sy'n ddangosydd allweddol o ran iechyd ecosystem y tirlun).
Gweithgareddau Eraill i Fonitro Bywyd Gwyllt
Mae Parcmyn Gwirfoddol yn y tîm Cadwraeth Ymarferol yn cwblhau mathau eraill o dasgau monitro bywyd gwyllt:
- Cofnodi a thynnu lluniau o safle creu gwelyau cyrs y PTA. Mae lefelau dŵr, uchder y rhedyn, unrhyw arsylwadau cyffredinol ynghylch hanes naturiol ac unrhyw arwyddion o fincod (ar rafft sydd wedi ei chynllunio i ddangos eu holion traed) yn cael eu cofnodi. Os na cheir unrhyw arwydd o fincod nad ydynt yn frodorol yn ystod hyd oes y cynllun PTA, gall y data hwn fod yn sail tystiolaeth i gyflwyno llygoden y dŵr mewn prosiect yn y dyfodol.
- Arolwg Adar Gwlypdir Misol (AAGM) yng Ngwarchodfa Natur Leol Llynnoedd y Garn ar gyfer Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Cwblheir hyn unwaith y mis ar fore Sul.
Gŵyl Gerdded Blaenafon
Mae'r ŵyl gerdded flynyddol yn cael ei chynnal bob mis Ebrill ac fe'i trefnir gan aelodau GATBB, ac mae'r holl deithiau cerdded yn cael eu harwain gan aelodau neu gan arbenigwyr lleol.