Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru
Dyma un o'r ychydig amgueddfeydd mwyngloddio lle gall ymwelwyr ddisgyn yng nghawell y pwll ac ymweld â'r lleoedd lle gweithiai cenedlaethau o lowyr. Mae ymwelwyr yn teithio 100 metr o dan y ddaear ac yna'n cael eu hebrwng gan löwr go iawn ar hyd llwybr 700metr, pob un ohonynt yn gwisgo helmed a lamp sy'n pwyso 5 cilogram.
Mae'r Orielau uwchben y ddaear, yn eich cludo ymlaen at bwll glo modern, gyda digon o synau curo a tharo a fflachio i gyffroi pawb.
Mae llawer o'r arddangosfeydd ac arddangosiadau ar yr wyneb wedi eu lleoli yn hen adeiladau gwreiddiol y pwll glo.
Mae ystod o adnoddau addysgol ar gael ar gyfer pob grŵp oedran ac mae'r daith dan ddaear wrth galon y rhan fwyaf o ymweliadau (rhaid i blant fod yn 1 metr o uchder).