Cyfnod Allweddol 3 a 4

Pwll Mawr yw un o'r ychydig amgueddfeydd mwyngloddio lle gall bobl ifanc ddisgyn yng nghawell y pwll ac ymweld â'r lleoedd lle bu cenedlaethau o lowyr yn gweithio. Mae llawer o'r arddangosfeydd ar yr wyneb wedi eu lleoli yn adeiladau gwreiddiol y pwll glo.

Ar lefel Ysgol Uwchradd a thu hwnt, gall bobl ifanc fynd o dan y ddaear i ymweld â'r pwll glo, dysgu am fywyd yng Nghymru a newidiadau cymdeithasol ac economaidd.

I gael y manylion llawn, ewch i wefan Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Adnoddau Eraill

Geiriau Glo

Adnodd ar-lein ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar lefelau Mynediad a Sylfaenol. Mae Geiriau Glo yn annog dysgwyr i ymweld â safle Pwll Mawr a defnyddio'i arddangosiadau ac adnoddau i wella'r profiad o ddysgu Cymraeg.