Cyfnod Allweddol 2
Pwll Mawr yw un o'r ychydig amgueddfeydd mwyngloddio lle gall plant ddisgyn yng nghawell y pwll ac ymweld â'r lleoedd lle bu cenedlaethau o lowyr yn gweithio. Mae llawer o'r arddangosfeydd ar yr wyneb wedi eu lleoli yn adeiladau gwreiddiol y pwll glo.
Yng Nghyfnod Allweddol 2, gall plant fynd o dan y ddaear i ymweld â'r pwll glo, gweld tomen rwbel i ddysgu am ei bywyd gwyllt, dysgu am blentyndod yn oes Victoria a bywyd fel glöwr.
I gael y manylion llawn, ewch i wefan Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru.