Gwaith Haearn Blaenafon

Gwaith Haearn Blaenafon, lleoliad y gyfres deledu BBC Coal House a Coal House at War, yw'r nodwedd hanesyddol fwyaf arwyddocaol ar Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Heddiw gallwch weld olion helaeth y ffwrneisi chwyth, tai bwrw a'r twr cydbwyso dŵr eiconig. Ar y safle, fe gewch gipolwg diddorol ar hanes cymdeithas yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a hynny yn siop 'drwco' y cwmni, sydd bellach wedi'i hail-greu, bythynnod o'r 19eg ganrif ar, ac wrth gwrs, bythynnod Coal House.

Mae’r dehongliadau ar y safle yn cynnwys:

  • pum safle clywedol (Cymraeg a Saesneg)
  • deg panel gwybodaeth
  • arddangosfa â modelau rhyngweithiol a byrddau gwybodaeth
  • siop ‘drwco’ neu siop y cwmni yn union fel yr ydoedd yn y 1840au
  • bythynnod â dodrefn wedi eu haddurno yn ôl pedwar cyfnod – 1790au, 1840au, 1920au a’r 1940au
  • Ystafell ddarganfod addysgol gyda 30 o giwbiau posau’ mawr a pum gorsaf ddarganfod

Mae ystafell ddarganfod addysgol ar gael i'w harchebu ymlaen llaw ac mae'n addas i grwpiau sydd i hyd at 30 o ddisgyblion - Mae'n ofynnol bod 5 oedolyn yn bresennol i oruchwylio gweithgareddau ac i sicrhau bod y gorsafoedd rhyngweithiol yn cael eu defnyddio'n briodol. Mae gweithgareddau a themâu yn cynnwys: Blwch pori - deunyddiau (glo, golosg, mwyn haearn, calchfaen, slag, haearn bwrw, haearn gyr); beth sydd yn y cwpwrdd? - Bwyd ar gyfer y cyfoethog a'r tlawd yn y 1840au; beth sydd yn fy mhoced? - offer chwarae i blant tlawd yn y 1840au; Pwy ydw i? - hetiau o 1840au i ddynion, menywod a phlant cyfoethog a thlawd; sut ydym ni'n gwybod am hanes? - codwch yr estyll i gael gwybod am agweddau o'r 1840au.

I ddeall pwysigrwydd Gwaith Haearn Blaenafon yn llawn ac i gael cipolwg ar fywydau'r bobl a oedd yn gweithio yno, rydym yn argymell eich bod yn ymweld â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ar yr un diwrnod. Mae'r Ganolfan Dreftadaeth wedi ei lleoli tua dwy funud ar droed o Waith Haearn Blaenafon. Yma gallwch ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau neu weithdai wedi'u cynllunio ar gyfer pob grŵp oedran.