Cyfleusterau Ac Ymweliadau

Cyfleusterau:

  • Mannau parcio pwrpasol i fysiau a cheir gyferbyn â’r fynedfa.
  • Toiledau â chyfleusterau ar y safle i olchi dwylo
  • Canolfan ymwelwyr gyda siop anrhegion
  • Map am ddim o’r safle a chanllaw i’r bythynnod a siop y cwmni
  • Canllaw am ddim i athrawon

Ymweliadau:

Mae ymweliadau hunan arweiniad gan ysgolion i Waith Haearn Blaenafon yn rhad ac am ddim ond mae'n rhaid archebu o flaen llaw gan mai cyfyngedig yw'r safle i ymwelwyr. Yn anffodus, gellir gwrthod mynediad i grwpiau sy'n cyrraedd heb archebu o flaen llaw. Gall staff addysgu arwain ymweliadau neu gall yr ysgol archebu a thalu am dywyswyr proffesiynol.

Os ydych yn dymuno defnyddio'r ystafell ddarganfod addysgol, mae'n hanfodol eich bod yn nodi hyn wrth drefnu'ch ymweliad. A fyddech cystal ag ymweld â thudalennau dysgu a darganfod gwefan Cadw am fwy o wybodaeth a ffurflen archebu y gellir ei lawr lwytho o www.cadw.gov.wales.

Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn safle ar lethr gydag amrywiaeth o arwynebau felly dylai ymwelwyr wisgo esgidiau call. Mae rhan helaeth o'r safle yn yr awyr agored, a dylai ymwelwyr wisgo dillad cynnes, diddos. Mae'r bythynnod yn fach; felly dylai disgyblion ymweld â hwy mewn grwpiau o tua chwech neu saith disgybl ar y mwyaf. Mae arweinlyfrau manwl o'r safle ar gael naill ai ar y safle neu gan Cadw: 01443 336092 am ddisgownt o 25% i athrawon yn unig.

I archebu a chael gwybodaeth am amserau agor, cysylltwch â: Gwaith Haearn Blaenafon ar 01495 792615
Gwaith Haearn Blaenafon, North Street, Blaenafon, Torfaen, NP4 9RQ

Am ymholiadau addysgol cysylltwch ag: Adrienne Goodenough ar 01443 336142 neu adrienne.goodenough@wales.gsi.gov.uk neu ewch i www.cadw.gov.wales.