Canolfan Treftadaeth Y Byd

Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon wedi ei lleoli yn hen Ysgol Eglwys San Pedr gynt a sefydlwyd ym 1816 gan Sarah Hopkins i ddarparu addysg am ddim i blant yr arferai eu rhieni weithio i Gwmni Blaenafon. Fel ei ragflaenydd hanesyddol, mae dysgu wedi ei ymwreiddio yng nghalon Canolfan Treftadaeth y Byd.

Nod

Nod Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yw creu adnodd dysgu o'r radd flaenaf i helpu pobl i ddeall Gwerth Cyffredinol Eithriadol Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Mae'n anelu at ddod yn ganolfan ar gyfer addysg y gwyddorau, technoleg, peirianneg, mathemateg, arloesi a datblygu, y cyfan oll drwy ddefnyddio stori Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Bydd yn darparu at ystod eang o gyfleoedd dysgu, boed ffurfiol ac anffurfiol i bawb, a bydd yn ysbrydoli pobl i ymwneud â'u lle mewn diwylliant fyd-eang.

Cefndir

Daeth tirwedd ddiwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth Byd ym mis Rhagfyr 2000. Mae'n dirwedd a ffurfiwyd gan law dyn, yn dyddio o ddyddiau cynnar y Chwyldro Diwydiannol - cyfnod pwysig yn esblygiad dynol, pan oedd y diwydiannau haearn a glo yn Ne Cymru o bwysigrwydd byd-eang.

Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn fan pwysig i astudio'r Chwyldro Diwydiannol. Mae'n lleoliad delfrydol i ysgolion sy'n astudio newidiadau ym mywydau dyddiol pobl yn y 19eg ganrif, yn ogystal â'r newidiadau a ddigwyddodd yng Nghymru, Prydain a'r byd ehangach rhwng 1760 a 1914. Mae'n darparu astudiaeth achos ardderchog i fyfyrwyr sy'n astudio dirywiad trefol ac adfywio economaidd.

Sefydlwyd Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon i ddarparu pwynt cyfeirio canolog i dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal, gan adrodd hanes y bobl sydd wedi ffurfio'r dirwedd hon o ddyddiau cynharaf y Chwyldro Diwydiannol hyd heddiw gan ddefnyddio ystod o gyfryngau yn cynnwys ffilm , sain, graffeg ac arddangosfeydd rhyngweithiol.

Ar hyn o bryd mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn gartref i ystafell adnoddau gydag eitemau sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon. Mae arddangosfa ryngweithiol yn y prif le arddangos, gyda sgriniau cyffwrdd sy'n cynnig rhaglenni sy'n addas i oedolion a phlant i archwilio gwybodaeth allweddol sy'n berthnasol i Safle Treftadaeth y Byd. Mae replica o ystafell ddosbarth o gyfnod Victoria wedi ei greu yn ddiweddar yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd gyda gwisgoedd, llechi, ac adnoddau a theganau eraill sy'n nodweddiadol o ystafell dosbarth yn y 19eg ganrif. Mae gan y Ganolfan lawer o adnoddau addysgol, sy'n cwmpasu hanes Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon drwy'r adegau.

Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn gweithio mewn partneriaeth agos â staff dysgu Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru, Gwaith Haearn Blaenafon a Chyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno addysg ar draws Safle Treftadaeth y Byd.

Mae Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn fan cychwyn rhesymegol ar gyfer ymweliadau â Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon. Mae'r hen ddiwydiannau trwm wedi gadael eu hôl ar yr amgylchedd, sydd yn llawn trysorau cudd, felly'n ei wneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer ymweliadau addysgol yn yr awyr agored y gellir eu hwyluso gan staff cymwys y ganolfan. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar ymweliad addysgol, rydym yn argymell eich bod yn manteisio ar un neu fwy o'r gweithgareddau neu weithdai a arweinir gan swyddog addysg profiadol.

Os hoffech drefnu ymweliad neu sesiwn gynorthwyedig gydag un o’n staff, a fyddech cystal â chysylltu â’r Ganolfan ar 01495 742333 neu e-bostio blaenavon.tic@torfaen.gov.uk