Archebu a Chyfleusterau
I drefnu unrhyw sesiwn (cynorthwyedig neu hunan arweiniad) cysylltwch â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ar 01495 742333 neu e-bostio blaenavon.tic@torfaen.gov.uk.
I archebu dros y ffôn, gwnewch yn siŵr bod gennych y wybodaeth hon wrth law:
- Enw eich ysgol / sefydliad
- Enw’r athro/athrawes / arweinydd y grŵp
- Rhif ffôn cyswllt
- Cyfeiriad e-bost (noder y bydd yr holl ohebiaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost)
- Cod post
- Nifer y disgyblion
- Ystod oedran/ cyfnod allweddol y disgyblion
- Nifer y staff fydd yn dod gyda chi,
- Nifer y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
- P’un ai fydd angen lle arnoch i fwyta cinio
- A ydych angen ymweliad â’r siop neu fag nwyddau.
Trefnu Ymweliad
Mae cynllunio’n ofalus yn hanfodol i lwyddiant eich ymweliad. Argymhellir eich bod yn ymweld â’r safle ymlaen llaw, er, nid yw hwn yn anghenraid.
Amserau Gweithdai Addysg
Mae ein diwrnod addysgol cynorthwyedig yn dechrau am 10am, a 12.30pm o ran sesiynau hanner dydd. Mae sesiwn diwrnod llawn yn dechrau am 10am tan 2.30pm. Os bydd angen amserau gwahanol ar eich ysgol, rhowch wybod i’r staff pan fyddwch yn trefnu’r ymweliad ac fe allwn deilwra’r ymweliad yn ôl eich anghenion.
Cymhareb Athro/disgybl
Mae angen cymarebau priodol o blant i oedolion ar gyfer y grŵp yn gyffredinol ac ar gyfer gweithgareddau penodol. Mae'n bosib y bydd angen rhannu'r plant i grwpiau llai, i hyd at 10 o blant, yn ôl natur y gweithgareddau. Derbynnir uchafswm o 70 o blant fesul ymweliad dydd, rhennir y rhain i ddau ddosbarth ag uchafswm o 35. Mae angen cymhareb o o leiaf un oedolyn i bob 8 o blant.
Taliad
Bydd eich sefydliad yn derbyn anfoneb ar ôl unrhyw ymweliad, a hynny’n seiliedig ar nifer y disgyblion.
Dillad ac Esgidiau
Mae llawer o'r gweithgareddau yn yr awyr agored, a / neu maent yn cynnwys taith gerdded. A fyddech cystal â sicrhau bod gan bob plentyn got law, dillad cynnes (hyd yn oed yn yr haf os ydynt yn cerdded ar y tir) ac esgidiau addas ar gyfer cerdded ar dir mwdlyd.
Ffotograffiaeth
Mae ffotograffiaeth neu ffilmio cynnwys bron â bod yn rhan o bob gweithdy. Rhowch wybod i'r Ganolfan os byddai'n well gennych pe na fyddai unrhyw luniau yn cael eu defnyddio ar ddeunydd hyrwyddo yn y dyfodol megis gwefannau a llyfrynnau. Ni fydd hyn yn gwahardd unrhyw blentyn rhag cymryd rhan yn llawn.
Cyfleusterau yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Amserau agor y Ganolfan - 10.00-17.00 – dydd Mawrth i ddydd Sul
Bwyd a Diod
Mae yna gaffi ar y safle i oedolion i'w defnyddio os ydych am brynu cinio. Nid yw'n addas i grwpiau mawr o blant, er, mae modd archebu cinio pecyn ymlaen llaw os oes angen. Gellir trefnu ardal cinio i blant drwy roi gwybod ymlaen llaw.
Siop Anrhegion
Mae yma siop anrhegion fechan sy'n gwerthu eitemau ar gyfer yr hen ac ifanc, a hynny am brisiau rhesymol. Fel rheol, nid yw'r gweithgareddau'n caniatáu amser i ymweld â'r siop, felly os hoffech chi ymweld â hi, rhowch wybod ymlaen llaw er mwyn i chi drefnu ymweliad a bydd hyn yn cael ei ymgorffori yn eich diwrnod. Os nad oes amser i ymweld â'r siop, gallwch archebu bagiau nwyddau o flaen llaw am gost y cytunwyd arni gyda'r rheolwr cyfleusterau.
Toiledau
Mae toiledau (dynion/menywod/anabl) wedi eu lleoli ar lawr gwaelod y Ganolfan
Bysiau a Pharcio
Mae mannau pwrpasol i fysiau ollwng ymwelwyr ac mae mannau parcio ar gael gyferbyn â Chanolfan Treftadaeth y Byd, gyda chroesfan yn arwain at y safle.
Symudedd a Mynediad
Mae Canolfan Treftadaeth y Byd yn gwbl hygyrch i’r ymwelwyr hynny y mae eu gallu i symud yn gyfyng. Mae dolenni clyw ac is-deitlau yn cyd-fynd â chyfryngau clyweledol. Mae'r holl wybodaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg; mae Ffrangeg hefyd ar gael fel opsiwn ar gyfer yr holl gyfryngau clyweledol a'r sgriniau cyffwrdd ryngweithiol.
Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Iechyd a Diogelwch ac Amddiffyn Plant
Mae'r Ganolfan yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sydd â pholisïau perthnasol megis Polisi Iechyd a Diogelwch a Pholisi Amddiffyn Plant yn eu lle. Mae gweithdrefnau argyfwng ysgrifenedig wedi eu cynnwys yn ein Dogfennaeth Iechyd a Diogelwch, sydd ar gael ar gais.
Mae'r Ganolfan Dreftadaeth yn adeilad ar ei newydd wedd ac felly'n bodloni'r holl ofynion statudol o ran diogelwch, iechyd, yr amgylchedd a gofynion rheoleiddio tân. Mae gweithdrefnau gwacáu mewn argyfwng yn eu lle ac mae'r allanfeydd tân wedi eu marcio'n glir. Mae larymau tân yn cael eu profi'n rheolaidd ac ar glywed y larwm ar unrhyw adeg dylai ymwelwyr adael drwy'r Allanfeydd Tân sydd wedi eu marcio ac ymgynnull yn ôl cyfarwyddyd y staff.
Mae Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yn cael ei ddefnyddio yn y Ganolfan Dreftadaeth ac ar dir y safle.
Cymorth cyntaf
Mae swyddogion cymorth cyntaf cymwys ar y safle yn ystod oriau agor.
Cyswllt
Os hoffech drafod eich archeb yn fanwl, neu os oes gennych unrhyw ofynion penodol nad ydynt wedi eu cynnwys yn y weithdrefn archebu, cysylltwch ag Ashleigh Taylor, Swyddog Addysg Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon ar 01495 742333 neu anfonwch e-bost ati ashleigh.taylor@torfaen.gov.uk.