Ymweliadau Dan Hunanarweiniad
Cafodd cynllun deongliadol y Ganolfan ei oruchwylio gan arbenigwyr yn y maes dylunio arddangosfeydd a chafodd ei gynnwys ei ddatblygu dros gyfnod o ddwy flynedd o ganlyniad gwaith ymchwil manwl ac yn dilyn ymgynghoriad ag athrawon. Mae'r naratifau'n cael eu cyflwyno trwy eiriau cymeriadau hanesyddol fel y gall pawb gael cipolwg ar fywydau bob dydd pobl gyffredin a deall y newidiadau yr oeddent yn eu hwynebu yn ystod y 19eg ganrif.
Mae ymweliadau dan hunan arweiniad i archwilio Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yn rhad ac am ddim.
Offer Dysgu’r Ganolfan
Ystafell Ddosbarth o Gyfnod Victoria
Mae atgynhyrchiad o ystafell ddosbarth yng nghyfnod Victoria wedi cael ei greu i dalu gwrogaeth i orffennol Canolfan Treftadaeth y Byd fel yr ysgol gyntaf, rhad ac am ddim i weithwyr yng Nghymru. I ategu at y profiad, mae ystafell ddosbarth o ddiwedd cyfnod Victoria yn cynnig mapiau y gellir eu tynnu i lawr, lluniau, desg ysgol a meinciau. I ddod â'r dosbarth i'r oes fodern, mae yna fwrdd Smart gyda 2 ffilm (ar gael yn Gymraeg a Saesneg) yn dangos profiadau plant yn oes Victoria yn Ysgol San Pedr. Mae gwisgoedd ar gyfer athrawon a phlant ar gael (rhai archebu o flaen llaw) yn ogystal ag ystod o wrthrychau rhyngweithiol. Gellir cynnal sesiwn ddifyr ar gyfer pob oedran.
Cost: Am ddim
I archebu sesiwn yn yr ystafell ddosbarth, gweler cyfleusterau ac archebu.
Object Handling
Dewch i ddefnyddio ein blychau trin gwrthrychau rhyfeddol, llawn gwrthrychau go iawn y gallwch eu cyffwrdd a chwarae gyda nhw. Ewch ati i gymharu â chyferbynnu bywydau pobl Blaenafon o'r 19eg ganrif i'r 20fed ganrif. Archwiliwch y gwahaniaethau rhwng pobl dlawd a chyfoethog.
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm: Llythrennedd, Rhifedd, Daearyddiaeth, Hanes, Gwyddoniaeth
Cost: Am ddim
Uchafswm: 30 per group
Sgriniau Cyffwrdd Rhyngweithiol
Prif ffocws lle arddangos Canolfan Treftadaeth y Byd yw wyth o orsafoedd sgrin gyffwrdd, pob un yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr archwilio chwe phwnc yn cynnwys amodau byw a gweithio yn ystod y 19eg ganrif, trafnidiaeth, gwneud haearn, daeareg a Threftadaeth.
Ar gyfer y pwnc amodau byw, gall myfyrwyr ymchwilio i wythnos ym mywyd plentyn yn y 19eg ganrif wedi ei adrodd yn y person cyntaf, a chymharu cynnwys bwthyn gweithiwr haearn â phlasty meistr haearn. Mae yna hefyd gêm 'cyflog byw' lle gall myfyrwyr geisio rheoli cyllideb y cartref ar gyflog gweithiwr haearn.
O ran amodau gwaith yn y 19eg ganrif, gall myfyrwyr ymchwilio i wahanol swyddi'r bobl gyffredin yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac edrych ar rôl bachgen drysau aer (Trapiwr), dramiwr a glöwr ifanc yn y 19eg ganrif. Mae yna hefyd gêm lle gall myfyrwyr weld peryglon yn y gweithle yn y 19eg ganrif.
Ar y thema drafnidiaeth, gall myfyrwyr gymharu'r mathau newidiol o gludiant o'r dyddiau cyn yr adeiladwyd y camlesi a rheilffyrdd drwodd i'r 19eg ganrif gan gyfeirio at y llwybrau a ddefnyddiwyd i symud haearn a glo o Flaenafon i Gasnewydd.
Ar gyfer y pwnc creu haearn, gall myfyrwyr ddysgu am y deunyddiau crai oedd eu hangen i wneud haearn a darganfod sut oedd ffwrnais chwyth yn gweithio. Gallant hefyd ymchwilio i sut y mireiniwyd haearn crai, a gwylio animeiddiad o'r broses gwneud haearn cyfan yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon.
O ran y pwnc daeareg, gall myfyrwyr ddarganfod sut y ffurfiwyd glo a haearnfaen.
Drwy archwilio'r thema Treftadaeth Byd, gall myfyrwyr ddarganfod sut y mae Safleoedd Treftadaeth y Byd yn cael eu dewis. Mae gêm - 'Ble yn y Byd?' - yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio gwahanol Safleoedd Treftadaeth y Byd o amgylch y byd.
Paneli Graffig
Mae cyfres o baneli graffeg a nodir ar hyd llinell amser sy'n dangos y newidiadau a fu ym Mlaenafon yn ystod y 18fed, 19eg a'r 20fed ganrif, wedi eu harddangos o amgylch y waliau yn y man arddangos. Bydd archwilio'r arddangosiadau ar y waliau yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu hymwybyddiaeth gronolegol a'u gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol o'r ardal hon, o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol hyd at y presennol. Mae'r testun wedi ei ysgrifennu yn y fath ffordd sy'n hygyrch i gynulleidfa CA2. Mae cyfres o daflenni gwaith pwrpasol ar wahanol bynciau i ddisgyblion ar gael i'w cynorthwyo wrth iddynt archwilio’r adnodd hwn yn ogystal â meddalwedd sgrin gyffwrdd, er mwyn dal sylw'r myfyrwyr.
Gorsafoedd Clywedol
Wedi eu cynnwys yn y man arddangos mae dwy orsaf glywedol, sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr wrando ar dystiolaeth uniongyrchol gan drigolion hŷn Blaenafon ar bynciau amrywiol, yn eu plith: plentyndod a gemau plant yn y 1920au a'r 30au; Ysgolion Sul; ysgol San Pedr; tai ac amodau byw; streic glowyr 1926; a thref Blaenafon.
Theatr Clyweledol
I ategu at y brif fan arddangos mae theatr fach sy'n cynnwys ffilmiau 5 munud o hyd; un yn archwilio datblygiad Treftadaeth Ddiwydiannol Blaenafon tra bod y llall, yn canolbwyntio ar Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r ddwy ffilm yn cyfrannu at y Cwricwlwm Cymreig a'r Cwricwlwm ABCh trwy helpu myfyrwyr i ddeall y ffactorau sydd wedi llunio Cymru yn ogystal ag archwilio'r thema ddinasyddiaeth fyd-eang.