Llysgenhadon ifanc

Dewch 'mlaen ... ewch allan 'na ar Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd Byddwch yn Llysgennad Ifanc!

Ymunwch â ni a chewch y cyffro o fod mewn tirwedd ddiwydiannol lwm ond hardd, fe gewch deithio i ddyfnderoedd y ddaear i weld y byd peryglus o echdynnu glo a chewch fod yn dyst i'r holl bŵer a gwres sydd eu hangen i wneud haearn.

Bachwch yr her o helpu eich hunain a phobl ifanc eraill i gael llais mewn rheoli Safle Treftadaeth Byd. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich hyder, eich hunan-barch, a'ch gallu i ddatrys problemau fel y gallwch ein helpu ni, a'r gymuned, i wrando o ddifri ar farn pobl ifanc.

Fe gewch gyfle i wirfoddoli ar gyfer digwyddiadau cymunedol fel Diwrnod Treftadaeth y Byd a chael cyfle i gymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau, fel Gŵyl y Gaeaf.

Wrth ddod yn Llysgennad Treftadaeth y Byd Blaenafon, byddwch yn:

  • Darganfod ac archwilio Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.
  • Cael llais mewn rheoli Safle Treftadaeth y Byd.
  • Gwneud ffrindiau o bob cwr o'r byd.
  • Rheoli a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithdai.
  • Mynd ar ddiwrnodau hwyl a theithiau preswyl i Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill.
  • Cael cymwysterau a hyfforddiant achrededig.
  • Ennill gwobrau a thystysgrifau ar gyfer oriau gwirfoddoli.

Rydym yn cynnal penwythnosau cofrestru bob hyn a hyn, ac rydym yn cwrdd ar nos Fawrth, felly ewch i’r dudalen ‘Ymuno â Ni’ i weld pryd y byddwn yn recriwtio nesaf!