Yr hyn rydym yn ei wneud
Mae'r Llysgenhadon Ifanc Treftadaeth y Byd yn grŵp gwirfoddol sydd wedi ymrwymo i rymuso pobl ifanc i gael llais, dysgu am Dreftadaeth y Byd, ac yna cyfrannu at y gwaith o reoli ein Safle Treftadaeth y Byd.
Os ydych rhwng 13 a 25 oed, gallwch wneud gwahaniaeth go iawn a rhoi help llaw i ni newid y byd! Gwnewch ffrindiau, meithrin sgiliau, ennill cymwysterau. Gwirfoddolwch mewn digwyddiadau cymunedol, helpwch i ddiogelu henebion, gwerthu candi fflos - rydym yn gwneud pob math o bethau! Gallwch gerdded yn ôl traed dinosoriaid yn yr Arfordir Jwrasig, mynd i weld cestyll hynafol Gogledd Cymru, a darganfod pŵer haearn a glo De Cymru a Birmingham, gallwch wneud y cyfan oll.
Mae'r Llysgenhadon Ifanc yn cyfarfod bob yn ail nos Fawrth, a thua 1 penwythnos bob deufis i wirfoddoli, dod at ei gilydd i gynllunio digwyddiadau, hyfforddi a chymryd rhan mewn gweithgareddau difyr fel ffilmio. Byddwch yn cael y cyfle i fynd i ffwrdd 2-3 gwaith y flwyddyn ar ymweliad preswyl â Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill.
Mae Llysgenhadon Ifanc yn mynychu tua 6 o ddigwyddiadau cymunedol ym Mlaenafon drwy gydol y flwyddyn, gan helpu allan drwy stiwardio neu staffio stondinau cymunedol. Fe gewch gyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer sefydliadau fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru os oes angen pobl ifanc ar gyfer prosiectau, fel ffilmio yn Sain Ffagan. Byddwch yn cynrychioli'r holl bobl ifanc ar gyfer ein Safle Treftadaeth y Byd, ac yn cael y cyfle i fynychu grwpiau i leisio pryderon pobl ifanc.
Peidiwch ag aros am newid. GWNEWCH IDDO DDIGWYDD! Gwirfoddolwch gyda ni!
Cael llais
Rydym wedi ymrwymo i gael ein sbarduno gennych chi ar bob lefel, a gallwch benderfynu cymryd rhan faint a mynnoch, o fynychu hyfforddiant i drefnu hyfforddiant i sefydliadau eraill.
Byddwn yn dathlu eich llais a'ch barn ac yn ysbrydoli sgyrsiau am Dreftadaeth y Byd a'ch cymuned. Byddwn yn eich annog ac yn eich cefnogi i leisio barn ac i gyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi. Mae'n golygu y gallwch rannu profiadau a chyfleu eich barn i gynghori sut y dylai gwasanaethau gael eu cynllunio a'u darparu er mwyn iddynt fod yn berthnasol i chi a'ch ffrindiau.
Cymwysterau a gwirfoddol
Gallwch ennill cymwysterau gwerthfawr a defnyddiol drwy ddod yn llysgennad.
Mae'r rhain yn gysylltiedig â chorff dyfarnu rhyngwladol ASDAN.
Gallwch weithio tuag at gymhwyster CoPE (Tystysgrif Effeithiolrwydd Personol). Mae hwn yn gymhwyster lefel 3 sy'n cyfateb i lefel A a 70 o bwyntiau UCAS.
Fel Llysgennad Treftadaeth Byd byddwch yn cael eich cofrestru ar gyfer Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Gallech hefyd ddefnyddio rhai o'ch oriau gwirfoddoli tuag at eich Gwobr Dug Caeredin.
Llysgenhadon hŷn
Gall Llysgenhadon Ifanc sydd yn hŷn, sydd eisiau chwarae mwy o rôl arweinyddiaeth yn y grŵp, wneud hynny. Byddant yn cynrychioli'r Llysgenhadon Ifanc gerbron sefydliadau sy'n bartneriaid ac mewn digwyddiadau, gan gynnig adborth i weddill y grŵp yn rheolaidd.
Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ashleigh.taylor@thehwb.org