Y prosiect
Mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon Safle Treftadaeth y Byd yn adrodd stori hanes diwydiannol cymuned unigryw a gogoneddus. Gyda Blaenafon yn croesawu Uwchgynhadledd Ieuenctid Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2015, fe wnaethom ganfod bod hyn yn gyfle perffaith i lansio prosiect i roi llais i bobl ifanc, a hynny o ran y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu treftadaeth o fewn eu cymunedau. Rydym wedi derbyn cyllid grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i recriwtio a hyfforddi pobl ifanc i ddod yn Llysgenhadon Treftadaeth y Byd yn eu cymunedau i ddiogelu hunaniaeth a chyfanrwydd ein Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon, y DU ac o gwmpas y Byd.
Mae treftadaeth Blaenafon o bwysigrwydd lleol a chenedlaethol, ond yn fwy na hynny, mae'n perthyn i'r Byd! Nod y prosiect yw helpu pobl ifanc nid yn unig i ddeall ond i chwarae rôl weithredol a chael llais yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a sut mae'n dylanwadu ar gymuned. Bydd y prosiect hwn yn darparu sylfaen i ddysgu sgiliau newydd, profi pethau newydd a rhoi grym i bobl ifanc fabwysiadu rôl arweiniol i ddiogelu Safle Treftadaeth y Byd yn y dyfodol.
Bydd cyfres o ddiwrnodau hyfforddi difyr achrededig, dan ofal Partneriaeth Treftadaeth y Byd Blaenafon yn addysgu pobl ifanc 13-25 oed ynghylch Gwerth Eithriadol, Byd-eang Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, sut y mae'n cael ei rheoli, a sut y gellir ei rheoli.
Bydd pobl ifanc yn eistedd ar grwpiau allweddol a dylanwadol er mwyn cael dylanwad gweithredol dros y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn eu cymunedau. Bydd hyfforddiant ar gyfer sefydliadau treftadaeth o ran cynnwys pobl ifanc a chaniatáu iddynt gyfleoedd i ddylanwadu. Bydd y bobl ifanc hefyd yn cael eu cefnogi i ddarparu digwyddiadau eu hunain i grwpiau eraill o bobl ifanc, ac ymwelwyr â'r ardal. Bydd y bobl ifanc, ochr yn ochr â'r bwrdd prosiect, yn creu cymhwyster pwrpasol i fynd i Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill, ar draws y DU, i greu rhwydwaith o Lysgenhadon Ifanc.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc rhwng 13-25 oed sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau; sy'n frwd dros hanes a threftadaeth, ac sydd eisiau helpu oedolion i ddeall a gwrando ar safbwynt pobl ifanc yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn ogystal â mwynhau profiadau bywyd cadarnhaol fydd yn gwella rhagolygon gwaith.
Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â dan.oliver@torfaen.gov.uk