Manylion Teithio
Teithio ar y Bws
Mae Safle Treftadaeth Byd Blaenafon yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer diwrnod o daith, yn enwedig os ydych chi a’ch grŵp o fewn llai na dwy awr o siwrnai. Os ydych yn teithio ymhellach i’n cyrraedd ni, efallai yr hoffech chi aros dros nos gydag un o’r darparwyr sy’n cynnig llety i grwpiau, fel bod digon o amser i werthfawrogi atyniadau niferus Blaenafon yn llwyr.
Mae Blaenafon yn mwynhau cysylltiadau da ar yr heol gyda’r holl drefi a dinasoedd pwysig yng Nghymru a Lloegr. Defnyddiwch y tabl isod i weld tua faint o amser fydd yn ei gymryd i’ch taith bws chi gyrraedd Blaenafon.
Tref /Dinas | Amcan o’r amser a gymerir i deithio ar yr heol |
---|---|
Caerfaddon | 1 awr ac 20 munud |
Birmingham | 1 awr a 56 munud |
Bryste | 1 awr |
Caerdydd | 50 munud |
Cheltenham | 1 awr a 30 munud |
Coventry | 2 awr a 10 munud |
Exeter | 2 awr a 10 munud |
Caerloyw | 1 awr ac 20 munud |
Henffordd | 50 munud |
Llandrindod | 1 awr ac 20 munud |
Llundain | 2 awr a 55 munud |
Manceinion | 3 awr ac 20 munud |
Casnewydd | 30 munud |
Rhydychen | 2 awr a 15 munud |
Plymouth | 2 awr a 50 munud |
Reading | 2 awr a 10 munud |
Yr Amwythig | 2 awr a 10 munud |
Southampton | 2 awr a 40 munud |
Abertawe | 1 awr ac 20 munud |
Swindon | 1 awr a 30 munud |
Wolverhampton | 2 awr a 5 munud |
Os ydych yn teithio o Firmingham a gogledd Prydain, dilynwch yr M5 tu’r de a gadael ar Gyffordd 8 gan barhau ar yr M50 i Ross on Wye. Dilynwch yr A40 i’r Fenni. Wrth y gylchfan cymerwch yr ail heol arno i’r A465. Gadewch yr A465 ar yr allanfa gyntaf a dilynwch yr arwyddion i Flaenafon a Big Pit. Nid yw’r siwrnai hon yn addas i gerbydau mawr a bysiau, felly dylai’r cerbydau hyn barhau ar yr A465 i Frynmawr a dilyn yr arwyddion i Flaenafon a Big oddi yno (B4248).
Os ydych yn teithio o Lundain a de-orllewin Lloegr, dilynwch yr M4 tua’r Gorllewin a gadael ar Gyffordd 25A (Casnewydd). Dilynwch yr A4042 mor bell â Phont-y-pŵl. Wrth y gylchfan (McDonalds) cymerwch yr heol gyntaf a dilynwch yr A4043 i Flaenafon, gan ddilyn arwyddion Big Pit.
Os hoffech chi ddefnyddio teclyn cynllunio siwrnai ar-lein, rhowch glic ar y gwefannau canlynol:
Parcio i fysiau ym Mlaenafon
Mae yna lefydd parcio i fysiau yn Big Pit a’r Gwaith Haearn. Er nad oes unrhyw faeau parcio wedi’u marcio’n arbennig i fysiau yng nghanol y dref a hyn o bryd, mae yna le i fysiau ollwng teithwyr ym maes parcio’r Ganolfan Treftadaeth Byd ar Ffordd yr Eglwys ac mae llefydd ar gael i fysiau llai o faint (30 sedd) ym Maes Parcio Stryd y Tywysog. Mae’r ddau le yma o fewn taith fer i’r dref ar droed. Mae yna lefydd parcio i fysiau hefyd ym Maes Parcio Rifle Green, gyferbyn â gwesty’r Rifleman.
Sylwch fod yna rai cyfyngiadau ar gerbydau yn yr ardal:
- B4246 Llan-ffwyst i Flaenafon – Cyfyngiad Pwysau 7.5 tunnell
- B4246 Blaenafon i Farteg – Uchder y Bont 13tr 9mod
- Isffordd o’r B4246 i Bwll-Du – dim mynediad i fysiau tu hwnt i dafarn y Lamb and Fox