Cyflwyniad i'r cymeriadau go iawn y tu ôl i brofiad rhithwir ym Mlaenafon

Mae profiad rhithwir (VR) 360⁰ newydd yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon - Teithio’n ôl mewn Amser yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon - sy’n gwahodd ymwelwyr i deithio’n ôl mewn amser i ddod wyneb yn wyneb â chyfres o gymeriadau go iawn a fu’n byw ac yn gweithio ym Mlaenafon yn Oes Fictoria.

Mae tair ffilm rhithwir i'w gweld a bydd y profiad gwefreiddiol yn mynd â chi ar daith yn ôl i'r Chwyldro Diwydiannol ac yn rhoi portread go iawn o'r heriau a’r rhwystrau roedd tri aelod o Gymuned Blaenafon yn eu hwynebu.

Dyma gipolwg ar y bobl y gallech chi gwrdd â nhw ar hyd y ffordd....

Dewch i gwrdd â Sarah Hopkins - sylfaenydd Ysgol San Pedr ym Mlaenafon

Roedd Sarah Hopkins yn un o ddau o blant Thomas Hopkins - sef un o sylfaenwyr Gwaith Haearn Blaenafon. O'r 18fed ganrif ymlaen, dechreuodd y teulu Hopkins eu perthynas hir â'r gymuned ddiwydiannol a oedd yn tyfu yn y dref.

Daeth Samuel Hopkins, brawd Sarah, yn Feistr Haearn uchel ei barch y Gwaith Haearn ac roedd ganddo ef a Sarah ddiddordeb brwd yn lles materol, addysgol ac ysbrydol plant y gweithwyr lleol – a oedd, er gwaethaf y gwaharddiad, yn aml yn ymgymryd â llafur gorfodol yn y cloddfeydd lleol.

Ar ôl sefydlu dwy ysgol fach mewn bythynnod ar gyrion y dref, lle roedd dosbarthiadau yn cael eu cynnal i’r plant gan wragedd y gweithwyr lleol am ddwy geiniog yr wythnos, roedd Sarah a’i brawd yn breuddwydio am gael agor ysgol bwrpasol am ddim yng nghanol Blaenafon.

Ond, gwaetha'r modd, wnaethon nhw ddim llwyddo i gyflawni eu cynllun tra oedd Samuel yn dal yn fyw. Ar ôl ei farwolaeth yn 1815, roedd Sarah yn benderfynol o adeiladu'r ysgol er cof am ei brawd a defnyddiodd ei hetifeddiaeth i sicrhau bod bwriadau caredig ei brawd yn cael eu gwireddu.

Yn 1816, cwblhawyd Ysgol San Pedr a chroesawyd 120 disgybl o deuluoedd lleol o bob cwr o’r dref. Bob bore, byddai'r plant hŷn yn cael eu dysgu am 3 awr gan y Prifathro, Mr John Cadwell, cyn pasio eu sgiliau newydd ymlaen i’r plant iau yn ystod y prynhawn.

Byddai Sarah yn ymweld â'r ysgol unwaith y flwyddyn ac yn mwynhau rhoi anrhegion bach i’r disgyblion i’w gwobrwyo am eu llwyddiannau academaidd.

I gael gwybod mwy am fenter addysgol Sarah ar gyfer plant tlawd Blaenafon, defnyddiwch ein technoleg rithwir i fynd yn ôl mewn amser yng Nghanolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon i gael profi golygfeydd a synau Oes Fictoria yn Ysgol San Pedr.

Profiad Teithio yn ôl mewn Amser yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Croesi llwybrau gyda Mary Underwood - siopwraig yn Rhif 57, Heol Lydan

Pan ddechreuodd y gweithfeydd haearn a’r pyllau glo fasnachu yn y 17eg ganrif, daeth Tref Dreftadaeth Blaenafon yn ganolfan fasnachol ar gyfer y miloedd o weithwyr a oedd yn cael eu cyflogi ledled yr ardal.

Roedd Mary Underwood yn berchen ar siop yng nghanol Blaenafon tua'r flwyddyn 1911, lle byddai wedi ennill tua £1 yr wythnos i'w helpu i ofalu am ei theulu.

Roedd yn gweithio yn rhif 57 ar Heol Lydan ac roedd yn falch o fod yn rhan o gymuned glòs – mae’n debyg mai cyflenwi nwyddau cyffredinol i'r cartref i bobl Blaenafon oedd hi, a losin i'r plant lleol.

O ffenestr ei siop, roedd yn mwynhau gwylio'r dref ddiwydiannol brysur yn gwneud bywoliaeth a byddai’n edrych ymlaen at weld ei gŵr a’i mab yn crwydro i lawr y strydoedd caregog yn dychwelyd o'r gwaith a’r ysgol.

Er bod Mary wrth ei bodd â’i swydd ac yn mwynhau cwrdd â phobl newydd o'r dref, cafodd gyfnodau cythryblus hefyd, gan gynnwys gwrthryfeloedd lleol a gorfod gwneud y penderfyniad poenus o adael Blaenafon ar ôl i’w gŵr golli ei waith yn ystod cwymp y diwydiant glo.

Y tro nesaf y byddwch yn crwydro ar hyd palmentydd hanesyddol Tref Dreftadaeth Blaenafon, stopiwch am seibiant ar y fainc Teithio’n ôl mewn Amser’a gadael i Mary eich tywys drwy ddiwrnod arferol ar Heol Lydan yn ystod y 19eg ganrif — a hynny drwy dechnoleg rithwir!

Profiad Teithio yn ôl mewn Amser yn Nhref Treftadaeth Blaenafon

Gwnewch ffrindiau â Henry Underwood - mwyngloddiwr lleol o Oes Fictoria

Roedd Henry yn ŵr cariadus i’r siopwraig, Mary Underwood, ac roedd yn weithiwr lleol yn ystod y 19eg ganrif. Mae’n anhysbys beth yn union oedd ei waith, ond mae’n debygol ei fod yn fwyngloddiwr ym mhwll glo Big Pit – swydd a oedd yn gyfarwydd iawn i bobl Tref Blaenafon.

Roedd llawer o aelodau o gymuned Blaenafon, gan gynnwys dynion, menywod a phlant mor ifanc â 5 oed hyd yn oed, yn gweithio 300 troedfedd o dan y ddaear yn Big Pit er mwyn cloddio llawer iawn o lo i ddarparu tanwydd ar gyfer trenau, llongau stêm, ffatrïoedd a chartrefi ym mhob cwr o'r byd!

Roedd llawer o alw am lo ac roedd Blaenafon ar frig y rhestr ar gyfer cyflenwi’r wlad – ond roedd llawer o beryglon yn dod yn sgil y galw hwnnw. Roedd Henry a’i gydweithwyr yn gweithio dan amodau gwael am hyd at 72 awr yr wythnos, ac roeddent mewn perygl o gael eu dal mewn ffrwydradau nwy a thanau, neu o gael twnneli’n cwympo arnynt bob dydd.

Ond, er gwaethaf caledi mwyngloddio yng Nghymru, roedd Big Pit yn cael ei ddisgrifio fel teulu mawr Blaenafon, lle roedd teimlad o gyfeillgarwch heb ei ail ymysg y gweithwyr.

Drwy ein profiad rhithwir 360⁰, cewch ddod wyneb yn wyneb â Henry yn Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, a chael gwybod mwy am ei waith yn y pwll glo wrth iddo fynd â chi ar daith hynod yn ôl i 1980, pan mai hwn oedd y pwll glo gweithredol olaf yng Nghymru…

Profiad Teithio yn ôl mewn Amser ym Mhwll Mawr

Dim penset rhithwir? Dim problem. Mae modd cael gafael ar y profiad Teithio’n ôl drwy Amser newydd sbon yn Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon drwy ddyfeisiau clyfar safonol neu borwr ar y cyfrifiadur. Os ydych chi’n awyddus i roi cynnig ar ddefnyddio technoleg rithwir ond nad oes gennych chi benset – gallwch fenthyg un o Big Pit – Amgueddfa Lofaol Cymru neu o Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.