Camwch i lawr i grombil y gwaith haearn a glo: a theithio drwy amser yn Safle Treftadaeth Byd Blaenafon

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut beth oedd byw a gweithio ym Mlaenafon yn oes Fictoria?

Os ydych chi – dyma’r lle i chi! Mae ein profiad realiti rhithwir 360⁰ newydd sbon Teithio yn ôl mewn Amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon yn ffordd ffantastig o ddarganfod sut le oedd Blaenafon yn y 19eg a’r 20fed ganrif.

Mae ein tair ffilm rithwir, sy’n cynnwys cymeriadau go iawn o orffennol diwydiannol y dref, yn caniatáu ichi wylio mewn amser real wrth i dref fodern Blaenafon ddychwelyd i’w gorffennol o fri.

I droi’r clociau’n ôl, yr oll mae angen ichi wneud yw mynd i Pasport Digidol Blaenafon a chwilio am ein meinciau Teithio Drwy Amser! Maent wedi’u lleoli ar draws y Safle Treftadaeth Byd, ac maent yn lle perffaith ichi eistedd, mwynhau’r ffilmiau a chamu’n ôl mewn amser.

Dyma ichi daith i’ch helpu i ddod o hyd i bob mainc – ynghyd â llu o weithgareddau ac atyniadau poblogaidd i’ch helpu i wneud y gorau o’ch diwrnod yn Safle Treftadaeth Byd Blaenafon.

1. Mwynhewch wers hanes yng Nghanolfan Treftadaeth Byd Blaenafon

Y lle perffaith i ddechrau eich ymweliad.

Mae Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon wedi’i lleoli tu mewn i ysgol ddiwydiannol hardd sydd wedi cael ei hadfer, mae’n llawn dop o arddangosiadau ac arddangosfeydd rhyngweithiol am orffennol cyfoethog y dref; a chynigia i ymwelwyr wybodaeth helaeth am yr ardal a’r tirlun lleol.

Lleolir y Ganolfan Dreftadaeth yn hen Ysgol Sant Pedr a oedd unwaith yn lle llawn gobaith a chyfleoedd i’r plant lleol – a oedd yn aml yn gweithio ochr yn ochr â’r oedolion yn y diwydiannau cloddio a glo. Ar ôl sylweddoli’r angen am addysg am ddim yn y dref, sefydlodd Sarah Hopkins yr Ysgol yn 1815 er cof am ei brawd a’r Haearnfeistr enwog, Samuel Hopkins.

Ym mlaen y Ganolfan fe welwch ein meinciau Teithio Drwy Amser poblogaidd – eisteddwch, cyfarfyddwch â Sarah Hopkins a gweld â’ch llygaid eich hun sut beth oedd mynychu Ysgol Sant Pedr flynyddoedd maith yn ôl.

2. Mentrwch dan ddaear yn Amgueddfa Lofaol Cymru Pwll Mawr

Ar ôl camu’n ôl mewn amser yn y Ganolfan Treftadaeth Byd, ewch ddau funud i lawr y ffordd mewn car neu 20 munud ar droed i Bwll Mawr - sy’n bwll glo go iawn lle bu cannoedd o ddynion, menywod a phlant yn gweithio i gloddio’r mwynau a fu’n rhoi tân ar yr aelwyd ym mhob cwr o’r byd.

Mae’r Amgueddfa Lofaol hon sydd wedi ennill gwobrau yn un o leoliadau treftadaeth gorau’r byd i ddwyn i gof y gorffennol, gan dalu teyrnged i chwys llafur glowyr Cymru yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Paratowch i gael eich gollwng 90 metr i lawr dan ddaear drwy’r twll gwreiddiol a dychmygwch y glowyr yn eu hetiau caled yn canu caneuon gwaith wrth ichi ddarganfod sut brofiad oedd gweithio ym mhwll glo Pwll Mawr.

Ac, os ydych chi eisiau gweld sut le oedd Pwll Mawr drwy lygad glöwr Oes Fictoria, ewch at y fainc Teithio Drwy Amser ar y safle lle gallwch ddefnyddio Pasport Digidol Blaenafon i ddarganfod hynt a helynt y glöwr lleol, Henry Underwood.

3. Dewch i flasu Cwrw Blaenafon ym Mragdy Rhymni

Gweithgaredd i’r teithwyr drwy amser hŷn: tafliad carreg yn unig o Bwll Mawr.

Bragdy Rhymni unwaith oedd y busnes bragdy mwyaf yng Nghymru ac mae iddo hanes arbennig sy’n ymestyn dros 140 o flynyddoedd o fragu.

Ar ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol roedd glanweithdra gwael yn golygu bod cwrw yn aml yn fwy diogel i’w yfed na dŵr. Hefyd, roedd gwres a straen y diwydiannau trwm yn codi syched aruthrol ar y gweithwyr, felly mewn tref fel Blaenafon a oedd yn cynhyrchu glo a haearn, roedd galw mawr am gwrw!

Ewch am dro i Ganolfan Ymwelwyr Bragdy Rhymni i weld sut caiff Cwrw Go Iawn ei wneud yn Safle Treftadaeth Byd Blaenafon.

4. Dewch i gnoi cil ar y gorffennol â Chwmni Cheddar Blaenafon

Mae’r Safle Treftadaeth Byd o amgylch Blaenafon nid yn unig yn brolio tirlun hanesyddol-bwysig ac amgueddfeydd achrededig, mae yno hefyd ddanteithion blasus i’w mwynhau.

Yn y cwmni gwneud caws lleol llwyddiannus, Blaenavon Cheddar Company - ar Broad Street - cymerwch flas ar y gorffennol a throi eich llaw at drochi eich caws eich hun.

O’r caws Black Gold - sy’n amrywiad ar Cheddar Pwll Mawr, sy’n ddu ei edrychiad ac wedi’i aeddfedu 300 troedfedd dan ddaear ym Mhwll Mawr, i’r Cheddar Bara Brith - bara traddodiadol Gymraeg sy’n llawn ffrwythau cymysg a rhesins melys wedi’u mwydo mewn gwirod ‘Black Mountain’ - mae’r cawsiau arbennig ac anghyffredin hyn yn unigryw i Flaenafon.

5. Ewch am dro ar hyd strydoedd Tref Dreftadaeth Blaenafon

Ewch am dro i dreulio’ch bwyd a mwynhau tref ryngwladol enwog Blaenafon. Mae Blaenafon wedi’i hamgylchynu â chapeli ac eglwysi hynafol, a cheir yno ddewis ardderchog o gaffis traddodiadol a siopau annibynnol arbenigol – gyda phob un ohonynt yn cynnig i ymwelwyr wên gyfeillgar a chroeso cynnes Cymreig.

Hefyd, peidiwch ag anghofio galw heibio Amgueddfa Gymunedol Blaenafon â’i thrysorau cudd. Ceir yma gasgliad mawr o gofnodion cymunedol a gwaith llaw lleol, ac mae’n ffordd wych o ddysgu mwy am hanes Blaenafon a’i phobl.

Pam na wnewch chi felly orffen eich ymweliad drwy stopio wrth ein trydedd fainc Teithio Drwy Amser a’r olaf yn Nhref Dreftadaeth Blaenafon – sydd wedi’i gosod ym Maes Parcio Broad Street – i ddysgu mwy am fywyd ceidwad siop lleol, Mary Underwood a’i theulu.

Ni clustffonau rhithwir? Dim problem. Gallwch fwynhau’r profiad newydd sbon Teithio'n ôl mewn Amser yn Safle Treftadaeth Byd Blaenafon drwy unrhyw ddyfais glyfar. Ac i unrhyw un a fyddai’n hoffi cael profiad rhithwir ond nad oes ganddo glustffon — cewch fenthyg un am ddim o Amgueddfa Lofaol Cymru Pwll Mawr neu o Ganolfan Treftadaeth Byd Blaenafon.