Safle Treftadaeth Byd Blaenafon
Ymweld â Blaenafon
Wedi eu lleoli ar safle 33 cilomedr sgwâr, mae'r atyniadau, digwyddiadau, gweithgareddau a thirwedd yn gyrchfan berffaith ar gyfer diwrnod allan.
Mae'r prif atyniadau fel Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru, Gwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y Byd a Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon i gyd ychydig funudau mewn car neu ar droed oddi wrth ei gilydd.
Mae yna gymaint o atyniadau gwych, bydd angen i chi dreulio mwy na diwrnod yma i fwynhau popeth – felly beth am fynd ait i gynllunio penwythnos os fedrwch chi!