Pasbort Digidol Blaenafon
Mae cymaint i'w archwilio ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, cymaint felly ein bod wedi creu Pasbort Digidol Blaenafon i'ch helpu i ddarganfod, a mwynhau, hanes tirwedd sydd wedi ei 'thrawsnewid gan ddiwydiant, ei hadfer gan natur a chael ei reoli ar gyfer yr dyfodol '.
Gallwch gael mynediad i "Basbort Digidol Blaenafon" a mynd ar daith clywedol o amgylch Tref Dreftadaeth Blaenafon gyda’ch tywysydd “Lewis Browning” a arferai fyw ym Mlaenafon ym 1906; neu beth am ddilyn llwybr “Tirweddau Cudd Ger yr Efail” a gweld sut arferai’r dirwedd chwarae rhan annatod yn y Chwyldro Diwydiannol. Gallwch hyd yn oed gael blas ar Flaenafon yn y 19eg a’r 20fed ganrif a theithio yn ôl mewn amser drwy ein profiadau rhithwir.
Nodwch fod Pasbort Digidol Blaenafon wedi'i optimeiddio ar gyfer sgrin portread ar ddyfeisiau symudol. Os ydych chi'n edrych arno ar fwrdd gwaith bydd angen i chi leihau maint eich sgrin i weld y pasbort yn iawn.