Archwilio'r Cymoedd a Newidiodd y Byd

Y mwynau oedd yn llechu dan fryniau De Cymru oedd y brif elfen a hybodd y Chwyldro Diwydiannol yn hanner olaf y 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg. Heidiodd miloedd o bobl o bob rhan o gefn gwlad Cymru, o weddill Prydain ac o wledydd y tu hwnt i ganfod gwaith yn y diwydiannau mawr haearn, dur, copr, tunplat a glo yng Nghymoedd De Cymru ac yn y porthladdoedd ar hyd Aber yr Afon Hafren.

Datblygodd cymdeithas newydd lle daeth nifer fechan o ddiwydianwyr pwerus yn hynod gyfoethog, ond lle bu gweithlu a dyfodd yn gyflym yn dioddef gwaith caled a thlodi. Newidiodd De Cymru'n ddramatig o ardal amaethyddol i gymdeithas ddiwydiannol. O ganlyniad, datblygodd undod ymysg y gweithwyr a ganwyd Siartiaeth, undebaeth lafur ac hefyd y mudiad llafur a ddylanwadodd ar ddatblygiad sosialaeth ledled y byd.

Mae'r oes wedi newid. Gwagwyd y meysydd glo, oerodd y ffwrneisi mawrion. Mae uchafiaeth Cymru ledled y byd yn y diwydiannau trwm wedi gorffen am byth. Er bod y mwyafrif o'r creithiau wedi diflannu a'r cymoedd yn wyrdd unwaith eto, gallwch olrhain y cyfnod hwnnw o ddiwydiant arwrol a'r ymdrech ddynol gysylltiedig drwy'r elfennau a adawyd ar ôl yn y tirlun.

Mae'r daflen hon yn tynnu ynghyd y safleoedd hynny ledled De Cymru lle gallwch ganfod rhagor am y diwydiannau hynny a wnaeth Dde Cymru'n enwog. Fe welwch sut y ffynnodd y cymunedau, sut y cludwyd y nwyddau a sut roedd y meistri haearn a'r gweithwyr yn byw. Wrth i chi archwilio rydych yn siŵr o gwrdd â phobl leol fydd yn eich croesawu ac yn adrodd straeon wrthych am eu diwydiannau lleol a'r cyfeillgarwch arbennig oedd yn bodoli (ac sy'n dal i fodoli) yn Ne Cymru.

Lawrl wythwch y daflen hon i gael cyfoeth o syniadau am fannau i ymweld â nhw er mwyn darganfod yr hanes unigryw yma.