Pecyn Cymorth Marchnata
Mae’r ‘Cymoedd a Newidiodd y Byd’ yn fenter sy’n annog partneriaid treftadaeth i gydweithio i hyrwyddo a dehongli hanes ein gorffennol diwydiannol. Hyd yma, mae dros 60 o fudiadau wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn, yn cynnwys Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw, ac mae’r nifer yn cynyddu. Mae’r ‘Cymoedd a Newidiodd y Byd’ hefyd yn rhan o Lwybr Ewropeaidd Treftadaeth Ddiwydiannol.
Drwy'r prosiect hwn byddwn yn datblygu mentrau cydweithio yn ogystal â darparu cefnogaeth ymarferol o ran adeiladu gwybodaeth, rhwydweithio a marchnata. Mae'r pecyn cymorth hwn yn rhan bwysig o'r prosiect.
Pam?
Fe wnaeth Cymoedd De Cymru gyfraniad enfawr i ddiwydiannu'r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Ein ffwrneisi oedd crud dyfeisiau diwydiannol ac addasu; fe wnaeth ein haearn ddarparu'r bwledi ar fwrdd HMS Victory, Nelson, tra bod ein copr yn diogelu corff y llong; ein rheiliau tywysodd y ffordd i'r cyfandir; ein glo ager o ansawdd uchel a alluogodd y teithio ar dir a môr; ein tunplat drawsnewidiodd y ffordd yr ydym yn cadw bwyd a diod, ac a sicrhaodd bod llawer o nwyddau cartref yn fwy fforddiadwy. Drwy gydol yr amser, roedd y chwyldro hwn yn ail-lunio ein tirwedd a'n cymunedau - gan greu arwyr a dihirod, eiconau ac ideolegau.
Ni all unrhyw un safle adrodd stori enfawr ein gorffennol diwydiannol, ond gyda'i gilydd fe allwn. Mae'r fenter hon yn ymwneud â chysylltu ein safleoedd i greu syniad gwell, mwy bywiog a chyffrous i ymwelwyr a phobl leol, o'r effaith y cafodd y fath ardal gymharol gryno ar y llwyfan byd-eang.
Beth yw’r pecyn cymorth a pham mae’n ddefnyddiol i mi?
Mae'r pecyn cymorth yn rhoi syniadau a chyngor syml ynglŷn â sut y gallwch ddefnyddio cysyniad 'Y Cymoedd a Newidiodd y Byd' i'ch helpu i farchnata eich safle a gwneud y 'cynnig' cyffredinol yn yr ardal yn fwy deniadol i ymwelwyr drwy ddangos eich bod yn rhan o rywbeth llawer mwy. Lawr lwythwch y Pecyn Cymorth yma (Y Pecyn Cymorth).
Rydym wedi cynnwys copi defnyddiol y gallwch ei dorri a'i ludo mewn i'ch gwefannau, taflenni a datganiadau i'r wasg ac ati. Rydym hefyd wedi cynnwys rhai delweddau stoc a rhoi cyngor ar sut i ddefnyddio delweddau o gasgliad helaeth Croeso Cymru. Mae yna hefyd awgrymiadau ymarferol ynglŷn â defnyddio'r sianelau cyfryngau cymdeithasol sy'n cysylltu â'r prosiect, rhestr o gysylltiadau arbenigol defnyddiol, cyngor ar gyfleu eich straeon ar y llwyfan cenedlaethol yn ogystal â dolenni i becyn cymorth marchnata Croeso Cymru a llawer mwy.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei gael yn ddefnyddiol!