Arloeswyr Treftadaeth y Cymoedd
Allwch chi ddychmygu gadael eich cartref, teulu a ffrindiau a mentro allan i gael 'bywyd newydd' rhywle hollol wahanol i unrhyw beth yr ydych chi neu unrhyw un arall wedi'i brofi erioed o'r blaen?
Croesi i’r Chwyldro Diwydiannol!
… Adeg pan adawodd cannoedd o filoedd o bobl eu bodolaeth llaw i'r genau yng nghefn gwlad, i chwilio am fywyd gwell. Daethant yn eu llu i feysydd glo a haearn cyfoethog De Cymru a oedd yn gyfoeth o fwynau - gan greu cymunedau newydd bron dros nos.
Beth am rannu eu hantur drwy ddilyn yn ôl troed un o Arloeswyr y Cymoedd? Mae'n syml, lawr lwythwch y llwybrau yn y ddolen isod. Gallwch ddewis o blith Hetty, Jack neu Tim; neu dilynwch y tri wrth iddynt ddarganfod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r bywyd yma yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Fe ddowch ar draws rhai safleoedd treftadaeth gwych ar eich ffordd ac ennill eich lle mewn hanes fel arloeswr treftadaeth y Cymoedd!
Cliciwch ar enw i ddysgu mwy.