YR ENWOGION!
Yr enwogion sydd wrth wraidd hanes diwydiannol y Cymoedd a Newidiodd y Byd!
Yma yn Ne Cymru, rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ei treftadaeth ddiwydiannol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, aeth y gornel fach hon o'r byd yn fyd-eang! Fe wnaeth tirwedd tua 25 milltir o hyd a 70 milltir o led greu sylfaen i: y gweithfeydd haearn a chopr mwyaf yn y byd; y cyntaf o siwrneiau trên go iawn; y lwmp mwyaf o lo; a datblygiadau technolegol a ddylanwadodd ar y byd modern. Mae ein rhestr o ffeithiau a chyfleoedd diwydiannol yn ddiddiwedd a hyd yn oed yn cynnwys ychydig o sbaneri 6 troedfedd o hyd!
Ond y pŵer go iawn y tu ôl i'n stori diwydiannol oedd y bobl. O fewnfudwyr cyfrwys a gymerodd y risg o sefydlu diwydiannau ar dir ffrwythlon ac ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen ... i feddyliau gwych y mae eu dyfeisiadau wedi helpu i lunio ein byd modern ... i ddiwygwyr cymdeithasol a wnaeth ar adegau, yr aberth eithaf yn eu hymdrech i wneud bywyd yn well i'r gweithwyr cyffredin.
Dyma ein henwogion, neu, fel yr ydym yn hoffi eu galw, Arwyr a Bröydd Arwrol.
Lawr lwythwch lwybr i ddilyn yr Arwyr ysbrydoledig!