Neuadd y Gweithwyr Blaenafon

Lleoliad sy’n cynnig awyrgylch unigryw a chyfleusterau busnes modern. Ailddodrefnwyd Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, sy’n enghraifft wych o sefydliad y glowyr yn y Cymoedd, a bellach mae’n un o’r safleoedd diwylliannol a chelfyddydol gorau yng Nghymoedd Gwent. Mae yma gyfleusterau gwych ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau, gan gynnwys awditoriwm 400 sedd, ardal balconi a llwyfan llawn, yn ogystal â sinema 80 sedd ar wahân. Mae Neuadd y Gweithwyr Blaenafon yn safle treftadaeth sydd â’i flas unigryw ei hun ac mae’n cyfuno cyfleusterau busnes modern gydag awyrgylch anhygoel.

Manylion Cyswllt

Neuadd y Gweithwyr Blaenafon|
101 Stryd Fawr
Blaenafon
Torfaen
NP4 9PT

Ffôn - (01495) 790732/792661

Cyfleusterau

  • Wrth galon Safle Treftadaeth Byd Blaenafon
  • Cyfleusterau sinema llawn
  • Bar trwyddedig