Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon
Lleolir Canolfan Ymwelwyr Treftadaeth Byd Blaenafon mewn hen ysgol a adeiladwyd gan y Meistri Haearn yn y 19eg Ganrif gynnar ac fe’i agorwyd i’r cyhoedd ym mis Mawrth 2008. Gall y rheiny sy’n ymweld â’r Ganolfan fwynhau ffilmiau, sgriniau rhyngweithiol ac arddangosfeydd sy’n adrodd stori pobl Blaenafon, a drawsnewidiodd tirwedd fynyddig trwy gynhyrchu haearn a chloddio am lo yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Lleolir y Ganolfan mewn dau adeilad rhestredig Gradd II*, wedi eu huno gan adeilad cyswllt cyfoes o wydr a dur, ac mae ganddi gyfleusterau cyfarfod a chynadledda rhagorol, a fyddai hefyd yn addas ar gyfer sesiynau hyfforddiant. Gorffennwyd y Ganolfan i safon uchel iawn, ac mae wedi derbyn gwobr yn ddiweddar gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.
Gyda golygfeydd godidog dros Fynydd Coety a Safle Treftadaeth Byd Blaenafon, mae’r safle hanesyddol hwn sydd â gwawr fodern yn ddewis gwahanol i leoliadau busnes traddodiadol.
Manylion Cyswllt
Canolfan Treftadaeth Byd Blaenafon
Ffordd yr Eglwys
Blaenafon
Torfaen
NP4 9AS
Ffôn - (01495) 742333
E-bost - blaenavon.tic@torfaen.gov.uk
Cyfleusterau’n Cynnwys
- Lleoliad o fewn Safle Treftadaeth Byd Blaenafon
- Mynediad i’r anabl
- Parcio i fysiau
- Caffi
- Cyfleusterau cynadledda
- Ystafell gyfarfod fawr
- Taflunydd digidol a chyfleusterau PowerPoint
- Mynediad diwifr i’r rhyngrwyd
- Systemau dolen sain ar gyfer defnyddwyr cymhorthion clyw
- Tir wedi’i dirlunio
- Canolfan Croeso
Llogi ystafell
- Ystafell gyfarfod - £12.50 yr awr (capasiti o 12 ar ffurf ystafell fwrdd, 25 ar ffurf theatr)