Stori Blaenafon
Mae Stori Blaenafon yn dyst i ymdrechion dynol. Mae’n adrodd hanes y cannoedd o deuluoedd ymfudol a deithiodd i’r ardal yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac a helpodd i lunio’r dref hanesyddol hon a’r dirwedd ddramatig. O’r haearnfeistri a’r entrepreneuriaid arloesol i’r bobl a weithiodd dan ddaear neu a weithiodd mor galed yn y cartref, mae Stori Blaenafon yn cynrychioli amrywiaeth o brofiadau pobl drwy hanes.
Mae profiad Blaenafon yn pontio cyfnod o newid mawr yng nghymoedd De Cymru. Yn wleidyddol, yn gymdeithasol, yn ddiwydiannol, economaidd a ffisegol, gweddnewidiwyd yr ardal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i’r rhanbarth ddod yn gynhyrchwr pwysicaf haearn, glo a dur yn y byd.
Mae stori Blaenafon yn un fyd-eang. Yn ychwanegol at allforio glo, haearn a dur, anfonodd y dref bobl a syniadau ar draws y byd. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, ymfudodd llawer o bobl Blaenafon i wledydd pell, gan fynd â’u sgiliau a’u profiadau gyda nhw. Ac ym Mlaenafon, yn ystod y 1870au, y canfu dau gefnder ifanc, Gilchrist a Thomas, ddull chwyldroadol o gynhyrchu dur, gan drawsnewid diwydiannau dur Ewrop ac America.
Dyma gyfres o erthyglau a fydd yn caniatáu i chi ystyried y pynciau hyn yn fanylach.
Tref Blaenafon
- Datblygiad Tref Blaenafon - Trosolwg o ddatblygiad y dref o’r ffermydd cynnar i’r dref ddiwydiannol brysur.
- Diwylliant ac Adloniant ym Mlaenafon - Hanes Neuadd y Gweithwyr, chwaraeon a cherddoriaeth ym Mlaenafon
- Cysylltiadau Rhyngwladol - Straeon y sawl a gyrhaeddodd yn chwilio am waith a’r rhai a aeth â’r sgiliau a ddysgwyd ym Mlaenafon gyda nhw ar draws y byd yn chwilio am gyfleoedd newydd.
Diwydiannau Blaenafon
- Gwaith Haearn Blaenafon: Hanes byr - O weithfeydd a sefydlwyd gan Hill, Hopkins a Pratt i gadwraeth y safle gan Cadw.
- Haearnfeistri Blaenafon - Dysgwch fwy am y teuluoedd a fuddsoddodd ym Mlaenafon a sut roeddynt yn cynorthwyo eu gweithwyr.
- Tramffordd Thomas Hill - Tramffordd arloesol a adeiladwyd i gysylltu Blaenafon gyda’r gamlas, gydag incleins a’r twnnel hiraf a adeiladwyd ar gyfer tramffordd geffylau.
- Gilchrist Thomas - Dysgwch pam y talwyd $250,000 i Sidney Gilchrist Thomas a’i gefnder Percy gan Andrew Carnegie.
- Cwmafon - Is-efail a oedd yn rhan o Stad Blaenafon.
- Y Pwll Mawr - Y stori, o pan suddwyd y siafft gyntaf i 200 troedfedd gan Gwmni Blaenafon ym 1860.
Crefydd ym Mlaenafon
- Crefydd ym Mlaenafon - Trosolwg o hanes yr Anglicaniaid ac Anghydffurfiaeth ym Mlaenafon.
- Eglwysi Anglicanaidd ym Mlaenafon - Dysgwch am stori Eglwysi San Pedr a San Paul.
- Capeli’r Anghydffurfwyr ym Mlaenafon - Archwiliwch straeon rai o Gapeli urddasol yr Anghydffurfwyr ym Mlaenafon.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwilio i rai o’r pynciau hyn ymhellach, yna bydd y Llyfryddiaeth hon a’r adran Darllen Ymhellach yn fan cychwyn da.