Gofalu am Flaenafon
‘Prif nod Partneriaeth Blaenafon yw amddiffyn a gwarchod y dirwedd hon er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ddeall y cyfraniad a wnaed gan Dde Cymru i’r Chwyldro Diwydiannol. Trwy gyflwyno a hyrwyddo Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon y bwriad yw cynyddu twristiaeth ddiwylliannol a chynorthwyo adfywiad economaidd yr ardal.’
Mae rhedeg Safle Treftadaeth y Byd yn gyfrifoldeb mawr. Gan Bartneriaeth Blaenafon y mae’r cyfrifoldeb o ofalu am Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, grŵp o gyrff cyhoeddus a mudiadau â diddordeb. Ffurfiwyd y Bartneriaeth, a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ym mis Awst 1997 gyda’r nod o gael statws Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer Blaenafon. Ers cofrestru ym mis Rhagfyr 2000, mae’r amrywiol bartneriaid wedi parhau i weithio gyda’i gilydd i amddiffyn a hyrwyddo’r safle a sicrhau bod Blaenafon yn lle y mae pobl eisiau ymweld ag o, byw a buddsoddi ynddo.