Pasbort Digidol Blaenafon

Mae cymaint i'w archwilio ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, cymaint felly ein bod wedi creu Pasbort Digidol Blaenafon i'ch helpu i ddarganfod, a mwynhau, hanes tirwedd sydd wedi ei 'thrawsnewid gan ddiwydiant, ei hadfer gan natur a chael ei reoli ar gyfer yr dyfodol '.

Gallwch gael mynediad i "Basbort Digidol Blaenafon" a mynd ar daith clywedol o amgylch Tref Dreftadaeth Blaenafon gyda’ch tywysydd “Lewis Browning” a arferai fyw ym Mlaenafon ym 1906; neu beth am ddilyn llwybr “Tirweddau Cudd Ger yr Efail” a gweld sut arferai’r dirwedd chwarae rhan annatod yn y Chwyldro Diwydiannol. Gallwch hyd yn oed gael blas ar Flaenafon yn y 19eg a’r 20fed ganrif a theithio yn ôl mewn amser drwy ein profiadau rhithwir.​

Nodwch fod Pasbort Digidol Blaenafon wedi'i optimeiddio ar gyfer sgrin portread ar ddyfeisiau symudol. Os ydych chi'n edrych arno ar fwrdd gwaith bydd angen i chi leihau maint eich sgrin i weld y pasbort yn iawn.