Diwydiant a Masnach
CYNGOR: Cliciwch neu cyffyrddwch â man sydd o ddiddordeb i ddarganfod mwy am yr atyniad hwnnw. Cliciwch neu cyffyrddwch eto i’w gau. I lwytho map arall neu leoliad arall, dewiswch gategori o’r ddewislen i ddangos y mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer y categori hwnnw.


GLANFA GOFILON
Roedd Glanfa Gofilon yn arfer cysylltu Blaenafon â Chamlas Brycheiniog a’r Fenni ac yna â Chasnewydd a thu hwnt. Roedd angen camlesi er mwyn cludo cynnyrch diwydiannol trwm fel haearn crai, glo a chalchfaen. Agorwyd Glanfa Gofilon ym 1805 ac fe’i cynlluniwyd ochr yn ochr â thramffyrdd. Roedd camlesi a thramffyrdd mor bwysig i’w gilydd mai’r gwaith cyntaf a wnaed gan gwmni newydd Brecknock and Abergavenny Canal Company ym 1794 oedd adeiladu tramffordd.

GLANFA LLAN-FFWYST
Cysylltai Glanfa Llan-ffwyst Flaenafon at weddill y byd trwy Gamlas Mynwy ac Aberhonddu. Roedd angen camlesi i gludo cynnyrch diwydiannol trwm fel haearn crai, glo a chalchfaen. Mae yna warws anferth yn Llan-ffwyst ar hyd y lanfa, a byddai’r warws wedi storio’r cynnyrch hyn. Cysylltwyd y lanfa gan inclein serth tuag at dramffordd Hill sy’n ymdroelli o amgylch Mynydd Blorens i Bwll-Du. Yma, mae’r dramffordd yn torri trwy’r mynydd at y gweithfeydd haearn ym Mlaenafon. Adeiladwyd inclein diweddarach dros y mynydd.
.jpg)
CAMLAS BRYCHEINIOG A’R FENNI
Adeiladwyd Camlas Brycheiniog a’r Fenni rhwng 1792 a 1812 i gludo glo, haearn, dur a deunydd crai eraill o amgylch y Deyrnas Unedig. Roedd y basn yn Llan-ffwyst yn derfynfa i dramffordd Hill, sef rheilffordd gynnar a ddeuai â chynnyrch o Flaenafon i’w cludo ar y camlesi. Roedd camlesi yn fath pwysig o gludiant diwydiannol yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Roedd y syniad o lwybrau camlas newydd yn sicr wedi dylanwadu ar y meistri haearn Thomas Hill, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt, i adeiladu’r gwaith haearn ym Mlaenafon.

CHWAREL TYLA
Mae Chwarel Tyla yn chwarel galchfaen. Mae yna lawer o galchfaen crai yn ardal Blaenafon ac mae’n bwysig am fod calchfaen yn un o’r deunyddiau crai pwysicaf ar gyfer y diwydiant haearn. Oherwydd hyn agorwyd llawer o chwareli fel Tyla. Roedd chwareli Tyla yn rhai mawr a helaeth a dyma un o’r prif ffynonellau calchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon, er ei bod hefyd yn cyflenwi Ffwrn Garn Ddyrys. Defnyddiai dwnnel Pwll-Du i gludo’r defnyddiau. Roedd ar agor hyd nes y 1920au.

TRAMFFORDD LLANFIHANGEL
I gychwyn, rhedai tramffordd Llanfihangel o Lan-ffwyst i Lanfihangel Crucornau. Ym 1818 cafodd ei hymestyn i Lanfa Gofilon ac i Rosllwyn. Roedd y derfynfa yng Ngofilon yn ymestyn cyn belled â iard y Capel. Datgelodd y cloddiadau yn y fan yma gledrau a thrawstiau sylfaen er, gan fod y Capel yn dod o gyfnod cynharach na’r dramffordd, nid ydym yn gwybod sut cawsai’r iard ei defnyddio. Oherwydd yr estyniadau hyn, roedd y dramffordd yn cysylltu at dramffyrdd eraill a redai o Rosllwyn i Langiwa, ac o Langiwa i Henffordd. Roedd hyn yn ffordd o gludo glo a chynnyrch eraill i Henffordd ac oddi yno.

TRAMFFORDD HILL
Roedd Tramffordd Hill yn fath cynnar o reilffordd a thynnwyd y cerbydau gan geffylau. Fe’i adeiladwyd gan Thomas Hill i wella cysylltiadau cludiant ar gyfer y diwydiant. Adeiladwyd y dramffordd ym 1812, ac mae’n dangos yn glir y datblygiadau technolegol cynnar a’r newidiadau mewn cludiant. Roedd creu’r dramffordd yn sbardun i ddiwydiant Haearn Blaenafon ddod yn arweinwyr y byd, oherwydd sefydlwyd cysylltiad gyda Chamlas Brycheiniog a’r Fenni a nawr byddai’n bosib cludo haearn a chalchfaen o amgylch y Deyrnas Unedig a’r Byd. Roedd hefyd wedi agor cysylltiadau gyda’r ffwrn newydd yng Ngarn Ddyrys.
CHWAREL PWLL-DU
Chwarel galchfaen yw Pwll-Du ac fe’i hagorwyd tua 1819 mewn ymateb i’r angen cynyddol am galchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon. Calchfaen yw un o’r deunyddiau crai pwysicaf ar gyfer y diwydiant haearn. Un o’r nodweddion pwysicaf ym Mhwll-Du yw lifft dŵr cytbwys, a godai wagenni’n llawn calchfaen o lawr y chwarel i’r dramffordd i’w cludo. Mae Chwarel Pwll-Du wedi’i chadw’n dda iawn ac felly mae’n Heneb Restredig.

FFWRN GARN DDYRYS
Adeiladwyd Ffwrn Garn Ddyrys gan Thomas Hill ac fe ddechreuodd gynhyrchu ym 1817 gan newid haearn crai yn haearn bwrw. Adeiladwyd tramffordd y cyfeirir ati fel “tramffordd Hill” tua’r un adeg, i gysylltu’r ffwrn at Aberhonddu a’r Fenni. Unwaith y cyrhaeddodd yr injan stêm Flaenafon ym 1854, ynyswyd Garn Ddyrys i raddau helaeth. Caeodd ym 1860, pan adeiladwyd ffwrn newydd y cyfeirir ato fel Ger-yr-efail, ym Mlaenafon. Erbyn hyn mae Garn Ddyrys yn Heneb Restredig, oherwydd, yn archeolegol, mae’n un o’r enghreifftiau mwyaf cyfan ar gadw o ffwrn o’r 19eg ganrif.

TOMENNI CANADA
Yn y 1940au, trwy gydol yr Ail Ryfel Byd, dechreuwyd gweithio glo brig yn ardal Blaenafon; gallwch weld y tomenni rwbel hwnt ac yma ar y dirwedd. Erbyn 1944, roedd 5% o’r holl lo ar gyfer ymdrech y rhyfel yn cael ei gynhyrchu ym Mlaenafon. Cynorthwywyd datblygiad cynnar glo brig, sef techneg na ddefnyddiwyd yn y Deyrnas Unedig cyn y rhyfel, gan filwyr o Ganada a oedd wedi’u lleoli ym Mhrydain, gan ddefnyddio’u harbenigedd a’u hoffer; a dyna darddiad yr enw ar y tomenni rwbel “Tomenni Canada”.
.jpg)
PWLL PEN-FFORDD-GOCH
Yr enw Saesneg ar Bwll Pen-ffordd-goch yw ‘Keeper’s Pond’ neu ‘Forge Pond’, ac mae wedi’i leoli ger Pwll-Du, ar y bryn uwchlaw Blaenafon. Adeiladwyd y pwll yn gynnar yn y 19eg ganrif i ddarparu dŵr ar gyfer Ffwrn Garn Ddyrys. Cafodd yr enw Saesneg ‘Keeper’s Pond’ am fod ciper gweunydd y grugieir yn byw mewn bwthyn gerllaw. Heddiw, mae’n fan o harddwch ac yn lle delfrydol i ddechrau taith gerdded ar Fynydd Blorens.

INCLEIN DYNE-STEEL
Mae Inclein Dyne-Steel yn Heneb Restredig. Cafodd ei adeiladu ym 1850 gan Thomas Dyne-Steel ac roedd yn dramffordd inclein dwbwl a ddefnyddiai bŵer stêm. Cysylltai Waith Haearn Blaenafon â Ffwrn Garn Ddyrys, gan gymryd lle tramffordd ceffylau, trwy Dwnnel Pwll-Du, a oedd ar un adeg yn rhan o’r siwrnai. Roedd y llwybr newydd hwn yn ffordd gyflymach a rhatach o gludo, gan alluogi mwy o dwf yn y diwydiant. Gallwch weld y nodwedd hon fel rhan o’r Llwybr Mynydd Haearn.

LLYNNOEDD GARN
Roedd Llynnoedd Garn yn arfer bod yn ardal a orchuddiwyd â thomenni rwbel a hen weithfeydd glo, ond yn dilyn cynllun adfer tir sylweddol, fe’i agorwyd yn swyddogol yn 1997 fel ardal hardd i drigolion ac ymwelwyr. Mae’n ymestyn ar draws 40 hectar a gyda’i llynnoedd a’i glaswelltiroedd mae’n darparu cynefin amrywiol a thir bridio i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Cymaint felly ei bod bellach wedi cael ei dynodi’n Warchodfa Natur Leol.

PYLLAU HILL
Pyllau Hill yw’r pyllau a suddwyd yn y 1830au gan Thomas Hill a’i Fab i echdynnu mwyn haearn a glo ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon. Roedd yna gysylltiad tramffordd uniongyrchol rhwng Pyllau Hill a Gwaith Haearn Blaenafon i gludo deunydd crai. Roedd y Pwll ar waith o 1844 i 1893. Heddiw ym Mhyllau Hill fe allwch weld y simnai sydd wedi’i chadw, a oedd yn arfer gwasanaethu injan stêm droellog â siafftiau dwbwl.
HILL PITS

RHEILFFORDD PONT-Y-PŴL A BLAENAFON RAILWAY
Yn wreiddiol, adeiladwyd y rheilffordd o Frynmawr i Flaenafon ym 1866 i gludo glo i’r Canolbarth, ac ym 1878 cafodd ei hymestyn i Abersychan a Thalywaun. Caewyd y rheilffordd i deithwyr ym 1941 ac i nwyddau ym 1964, er bod yr adran o Flaenafon i Bont-y-pŵl yn cael ei defnyddio ar gyfer glo o Big Pit a phyllau glo lleol eraill hyd nes 1980. Heddiw gallwch ymweld â’r rheilffordd a chael reid ar yr injan stêm yn Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon.

TWNNEL PWLL DU
Chwarel galchfaen yw Pwll-Du ac fe’i hagorwyd tua 1819 mewn ymateb i’r angen cynyddol am galchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Blaenafon. Calchfaen yw un o’r deunyddiau crai pwysicaf ar gyfer y diwydiant haearn. Un o’r nodweddion pwysicaf ym Mhwll-Du yw lifft dŵr cytbwys, a godai wagenni’n llawn calchfaen o lawr y chwarel i’r dramffordd i’w cludo. Mae Chwarel Pwll-Du wedi’i chadw’n dda iawn ac felly mae’n Heneb Restredig.

TOMEN COETY
Crëwyd Tomen Coety, sef tomen o wastraff cloddio, pan yr oedd Big Pit a’i rhagflaenydd Pwll Coety ar waith. Mwynglawdd haearn oedd Pwll Coety yn bennaf. Ar un adeg, roedd tomenni fel y rhain yn olygfa gyfarwydd mewn cymunedau diwydiannol. Gwaredwyd craig a siâl gwastraff o’r broses fwyngloddio ar yr arwyneb, gan newid y dirwedd a’r amgylchedd am byth. Wedi i’r tipio ddod i ben, fe ddechreuodd natur adfer y domen a’r ardal o’i hamgylch yn raddol, a bellach mae’n gyfoeth o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid.

GWAITH HAEARN BLAENAFON
Gwaith Haearn Blaenafon yw nodwedd bwysicaf y Safle Treftadaeth Byd ac mae bellach yn Heneb Restredig. Agorwyd y gwaith haearn ym 1789 gan y meistri haearn Thomas Hill, Thomas Hopkins a Benjamin Pratt. Yn gynnar yn y 19eg ganrif roedd yn un o gynhyrchwyr haearn pwysicaf y byd. Heddiw, dyma’r gyfres orau yn y byd o adeiladau ffwrnais chwyth o’r cyfnod ac o’i fath sydd ar gadw, ac mae’n un o’r cofebion pwysicaf i oroesi o gyfnod cynnar y chwyldro diwydiannol

STACK SQUARE AC ENGINE ROW
Mae Stack Square ac Engine Row yn gyfres o fythynnod bach o gerrig a adeiladwyd yn y 1780au i gartrefu’r gweithwyr ffwrnais medrus o Waith Haearn Blaenafon. Byddai’r tai wedi annog mudwyr medrus i ddod i weithio i’r Gwaith Haearn newydd; pobl fel Timothy McCarthy. Roedd y sgwâr yn cynnwys tŷ’r rheolwr, siop y cwmni a swyddfa. Heddiw, maen nhw’n Henebion Rhestredig ac wedi cael eu hadfer gan CADW a gall ymwelwyr gerdded o’u cwmpas. Yn 2007/8 dyma ble ffilmiwyd y gyfres deledu boblogaidd Coal House ar gyfer y BBC.

BIG PIT: AMGUEDDFA LOFAOL CYMRU
Agorodd Big Pit ym 1860 ac yma roedden nhw’n cloddio am lo. Glo oedd gwaed y chwyldro diwydiannol. Cafodd ei ddefnyddio i wneud haearn a dur ac fel tanwydd i’r llongau, y trenau ac injans stêm. Yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif, roedd Big Pit yn un o nifer o byllau glo ar waith ym Mlaenafon, a gyda’i gilydd roedden nhw’n cynhyrchu digon o lo i sicrhau mai De Cymru oedd yn arwain y byd o ran cynhyrchu glo! Pan gaewyd y pwll ym 1980 hwn oedd y pwll glo hynaf ar waith yn Ne Cymru. Heddiw, fel Amgueddfa Lofaol Cymru, mae’n enwog am ei amgueddfa a’i daith o dan y ddaear sy’n gyfle i chi gael blas ar fywyd ar y wyneb glo!

DONCASTERS
Yn wreiddiol, sylfaenwyd Doncaster's Group Ltd ym 1778, pan sefydlodd Daniel Doncaster weithrediad yn Sheffield, Lloegr i ddefnyddio’r broses grwsibl o wneuthurio dur i wneud offer llaw. Bellach dyma un o’r cwmnïau gweithgynhyrchu diwydiannol sydd wedi gweithredu’n barhaus am y cyfnod hiraf yn y byd. Sefydlwyd Doncasters Blaenafon yn y 1950au ac mae’n dal i fod yn safle diwydiannol actif yn Ger-yr-efail. Mae’n cynhyrchu cylchoedd gyredig, casins, llafnau a disgiau ar gyfer y diwydiant awyrofod, tyrbinau nwy diwydiannol a diwydiannau peirianneg arbenigol.

PONT A LEFEL ARRON BRUTE
Yn ddiweddar, adferwyd Pont Arron Brute i’w hysblander gwreiddiol. Mae’r Heneb Restredig hwn yn un o’r enghreifftiau cynharaf yn y byd o bont haearn bwrw, ac fe’i hadeiladwyd ym 1812. Cyfeirir ati fel ‘Pont Arron Brute’, am mai Arron Brute oedd rheolwr y pwll lleol pan adeiladwyd y bont, ac roedd yn ddyn dylanwadol. Gallwch weld ei fwthyn ger y bont ac mae rhywrai’n dal i fyw ynddo heddiw.

FARTEG
Agorwyd Gwaith Haearn Farteg yn gynnar yn y 19eg Ganrif ar dir wedi’i osod gan Thomas Hill a Thomas Hopkins. Adeiladwyd inclein isaf Farteg tua 1803 i gludo tramiau o haearn crai o waith haearn Farteg i Ffwrn Cwmafon. Yna cawsai ei drosglwyddo at Gamlas Mynwy ac Aberhonddu i’w gludo o amgylch y Deyrnas Unedig a thramor. Agorodd pwll glo Farteg ym 1860 fel pwll glo a mwynglawdd haearn ac ym 1861 estynnwyd y llinell dramiau hefyd.
Prif Atyniadau
Dewch i weld beth sydd gan Flaenafon i’w gynnig, archwilio’r hanes lleol a darganfod pethau i’ch difyrru.
Llwybrau
Beth am archwilio Blaenafon a’r cyffiniau ar droed?
Diwydiant a Masnach
Dewch i ddarganfod popeth am Flaenafon, archwilio’r hen byllau glo a mwyngloddio neu ymweld â’r gweithfeydd haearn.
Bywyd Cymdeithasol
Ewch am dro hamddenol o amgylch prif ardal y dref, pori yn ei siopau a chwrdd â’r bobl leol gyfeillgar.
Tirffurf a Bywyd Gwyllt
Archwiliwch y nodweddion naturiol niferus hwnt ac yma o amgylch Blaenafon.