Bywyd Cymdeithasol
CYNGOR: Cliciwch neu cyffyrddwch â man sydd o ddiddordeb i ddarganfod mwy am yr atyniad hwnnw. Cliciwch neu cyffyrddwch eto i’w gau. I lwytho map arall neu leoliad arall, dewiswch gategori o’r ddewislen i ddangos y mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer y categori hwnnw.

TAI GARN DDYRYS
Roedd tai gweithwyr Garn Ddyrys ar y safle. Yng Ngarn Ddyrys, roedd tai’r gweithwyr yn cynnwys bythynnod deulawr o gerrig gyda blaen sengl, linteli o gerrig a phantrïoedd corbelog â fowtiau baril yn y cefn wedi eu hadeiladu i mewn i lethrau’r graig (Sgwâr Garn Ddyrys); roedd yna bymtheg o fythynnod cerrig hefyd yn Rhes Garnddyrys. Cloddiwyd eu sylfeini yn y 1970au.

STACK SQUARE AC ENGINE ROW
Mae Stack Square ac Engine Row yn gyfres o fythynnod bach o gerrig a adeiladwyd yn y 1780au i gartrefu’r gweithwyr ffwrnais medrus o Waith Haearn Blaenafon. Byddai’r tai wedi annog mudwyr medrus i ddod i weithio i’r Gwaith Haearn newydd; pobl fel Timothy McCarthy. Roedd y sgwâr yn cynnwys tŷ’r rheolwr, siop y cwmni a swyddfa. Heddiw, maen nhw’n Henebion Rhestredig ac wedi cael eu hadfer gan CADW a gall ymwelwyr gerdded o’u cwmpas. Yn 2007/8 dyma ble ffilmiwyd y gyfres deledu boblogaidd Coal House ar gyfer y BBC.

TŶ MAWR
Yr enw arall ar Tŷ Mawr yw Tŷ Blaenafon, neu ar hyn o bryd “The Beeches”, a dyma gartref y Meistr Haearn Samuel Hopkins. Pan ddaeth yr Archddiacon William Coxe ar ymweliad â Blaenafon ym 1798 dywedodd ei fod yn ‘blasty cysurus a choeth’. Byddai’r tŷ crand, gyda’i ystafelloedd a’i erddi niferus, wedi bod yn gyferbyniad gweledol llwyr gyda chartrefi’r gweithwyr. Trowyd yr adeilad yn ysbyty yn y 1920au ac yna daeth yn gartref nyrsio yn y 1980au. Caeodd yn 2007.

GWESTY’R LLEW
Roedd gwesty’r Llew yn un o dafarndai niferus Blaenafon. Ym 1868 roedd yn ffocws i derfysg, pan gollodd ymgeisydd y Rhyddfrydwyr i ymgeisydd y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol. Rhedodd y criw crac a meddw yn wyllt gan fandaleiddio Gwesty’r Llew, yr oedd ei Landlord yn Geidwadwr. Yfwyd yr holl alcohol a chwalu a fandaleiddio’r safle. Daeth y terfysg i ben pan gyrhaeddodd ‘gŵyr y cotiau coch’ (y milwyr). Dedfrydwyd mwyafrif y terfysgwyr i lafur caled.

STRYD Y BRENIN
Mae Stryd y Brenin yn un o strydoedd hynaf Blaenafon ac yn wreiddiol roedd y Cymry’n ei galw’n ‘Heol-ust-tewi’. Yn y 19eg a’r 20fed ganrif roedd y stryd yn ffyniannus, ac roedd arni lawer o siopau a thafarndai. Ym 1868, cafwyd terfysg dros ganlyniadau’r etholiad cyffredinol yn Stryd y Brenin. Bu’r terfysgwyr yn ymosod ar siop groser a siop ‘sgidiau gan daflu eu nwyddau i’r stryd, ble cawsant eu dwyn gan y dyrfa.

YR HEN LYS
Ar un adeg, dyma safle Llys Ynadon Blaenafon. Trwy gydol hanes diwydiannol Blaenafon, bu’r Llys yn ffocws trais a therfysgoedd pan erlynwyd pobl, yn enwedig menywod a phlant, am ddwyn bwyd neu lo i helpu’u teuluoedd i oroesi yn ystod adegau o streic.

Y CO-OPERATIVE
Sefydlwyd The Co-operative Society ym Mlaenafon ym 1889 ac roedd yn fudiad llesiant i’r gweithwyr anghenus ac yn annog gweithgareddau cymdeithasol. Neuadd y Gweithwyr oedd ffocws y gymdeithas. Roedd siop The Co-operative Society ar waith o 1915 i 1970 pan newidiodd y gorfforaeth gyfan i mewn i’r Co-op yr ydyn ni’n gyfarwydd ag ef heddiw. Fodd bynnag, mae’r siop yn dal i fod yn Ivor Street.

NEUADD Y GWEITHWYR
Agorwyd y Neuadd ym mis Ionawr 1895, ac mae’n dyst i hanes cymdeithasol balch Blaenafon. Ariannwyd y gwaith o adeiladu’r neuadd gan Sefydliad y Gweithwyr Blaenafon, a fyddai’n casglu hanner ceiniog yr wythnos o gyflogau ei aelodau. Am ddegawdau, Neuadd y Gweithwyr oedd canolbwynt y gymuned, a chynigiai lyfrgell, gêmau, adloniant a gweithgareddau hamdden. Heddiw mae’n parhau i fod yn ganolbwynt gweithgarwch cymdeithasol.

HEOL LYDAN
Datblygwyd Heol Lydan, prif ganolfan fasnachol Blaenafon, yng nghanol y 19eg ganrif. Yn ystod oes Fictoria, roedd sawl busnes ffyniannus ar y stryd hon a’r dref yn fwrlwm o weithgarwch. Erbyn 1901 roedd dros ddau gant o adeiladau masnachol ym Mlaenafon, gan gynnwys dwsinau o dafarndai. Yn ystod dirywiad economaidd yr 20fed ganrif, caewyd sawl siop a busnes. Ceisiodd cynlluniau adfywio diweddar adfywio’r ardal ac erbyn hyn gellir gweld amrywiaeth o siopau a chaffis yn Heol Lydan.

SWYDDFA’R POST
Adeiladwyd Swyddfa’r Post ym 1937 ac mae’n dal i gael ei defnyddio heddiw. Mae’n enghraifft dda o Swyddfa’r Post yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II gyda llawer o nodweddion gwreiddiol fel y llawr teils, paneli pren mahogani a chownteri gwreiddiol o’r 1930au. Yn wreiddiol, lleolwyd Swyddfa’r Post ym mhrif ganolfan fasnachol Heol Lydan, ond symudodd o’r adeilad wedi agor yr adeilad newydd yn Stryd y Tywysog; chwalwyd rhai o’r adeiladau hynaf ym Mlaenafon i balmantu’r ffordd ar ei chyfer.

CAPEL NEWYDD
Cyn sefydlu’r gwaith haearn ym 1789, roedd Blaenafon yn gymuned amaethyddol Gymraeg ei hiaith â’i phoblogaeth yn wasgarog. Darparai capel anwes canoloesol o’r enw Capel Newydd ar gyfer anghenion ysbrydol y bobl leol. Yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif, yn sgil y diwydiant haearn a dur, ffrwydrodd poblogaeth yr ardal. Ni allai Capel Newydd ddarparu ar gyfer y cynnydd hwn yn nifer y selogion ac roedd hefyd wedi’i leoli pellter anghyfleus o’r gwaith haearn, ac felly adeiladwyd capel newydd o’r enw Capel San Pedr.

RHES YR EFAIL, CWMAFON
I’r de o Flaenafon mae pentref Cwmafon. Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd ffwrn yn y pentref, gyda chysylltiad at Waith Haearn Blaenafon. Fwy na thebyg y byddai’n defnyddio’r broses bwdlo. Ym 1804 – 6, adeiladwyd enghraifft neilltuol o derasau ar gyfer gweithwyr y ffwrn a oedd yn cynnwys deuddeg annedd yn wreiddiol, ac erbyn hyn maen nhw’n rhestredig fel adeiladau Gradd II. Cawsant eu hatgyweirio gan Ymddiriedolaeth Adeiladau Hanesyddol Prydain ym 1987-88, ac mae’r rhes wedi cael ei disgrifio fel y terasau gorau i oroesi o blith tai cynnar y gweithwyr yng Nghymoedd De Cymru.
Prif Atyniadau
Dewch i weld beth sydd gan Flaenafon i’w gynnig, archwilio’r hanes lleol a darganfod pethau i’ch difyrru.
Llwybrau
Beth am archwilio Blaenafon a’r cyffiniau ar droed?
Diwydiant a Masnach
Dewch i ddarganfod popeth am Flaenafon, archwilio’r hen byllau glo a mwyngloddio neu ymweld â’r gweithfeydd haearn.
Bywyd Cymdeithasol
Ewch am dro hamddenol o amgylch prif ardal y dref, pori yn ei siopau a chwrdd â’r bobl leol gyfeillgar.
Tirffurf a Bywyd Gwyllt
Archwiliwch y nodweddion naturiol niferus hwnt ac yma o amgylch Blaenafon.